Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 24 Mai 2017.
Nid wyf yn gyfarwydd â’r ffigurau hynny. Nid wyf yn siŵr a oeddech yn dweud mai ffigurau DEFRA oeddent, gan nad wyf yn credu bod hynny’n wir yng Nghymru—y gostyngiad sylweddol hwnnw. Nid wyf yn hoffi’r gair ‘argyfwng’. Rwy’n deall ei bod yn anodd iawn i ffermwyr ifanc os nad ydynt yn rhan o deulu sy’n ffermio—os ydynt yn awyddus i ddod i mewn i’r byd ffermio o’r newydd, os mynnwch, mae’n anodd iawn iddynt allu gwneud hynny. Un peth rydym wedi bod yn gweithio arno gyda ffermwyr ifanc yw sicrhau ein bod yn eu helpu i fynd i mewn i’r byd amaethyddol. Dychwelaf at yr hyn a ddywedais ynglŷn â gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio eu hannog i beidio â gwerthu’r ffermydd sydd ganddynt yn eu portffolios, oherwydd, yn sicr, o siarad â ffermwyr ifanc, dyna un o’r ffyrdd y gallant ddechrau ffermio. Soniais am rywun yng ngogledd Cymru; mewn gwirionedd, daw o gefndir amaethyddol, ond roedd yn awyddus i fynd i gael ei fferm ei hun. Yn 21 oed, mae wedi lesio fferm, sy’n ardderchog.