Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch. Er bod ansawdd aer yng Nghymru yn gwella, mae ambell i ardal yn parhau i beri problemau. Wrth i ni weithio i gwblhau fframwaith parth aer glân newydd i Gymru, caiff pob sector a phob corff cynrychiadol—yn enwedig yn y sector preifat—eu hystyried yn rhanddeiliaid gweithredol. Bydd eu hymgysylltiad â’r gwaith hwn yn hanfodol.