<p>Gwella Ansawdd Aer Ledled Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:57, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno bod llygredd aer yn effeithio ar ein hamgylchedd ac ar ein hiechyd. O ran y materion amgylcheddol, rydym mewn gwirionedd yn gweld yr effeithiau ar ein rhywogaethau, ein planhigion ac yn ein trefi. Dewch i Tai-bach yn fy etholaeth er mwyn gweld rhai o’r effeithiau gweledol eich hun. Ond hefyd, mae llawer o sefydliadau ym maes iechyd yn nodi bod llygredd aer yn cyfrannu at dros 2,000 o farwolaethau bob blwyddyn yma yng Nghymru oherwydd pethau fel pyliau o asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac efallai chwyddiadau a thrawiadau ar y galon o ganlyniad i lygredd aer.

Rwy’n sylweddoli mai Gweinidog arall sy’n gyfrifol am yr agenda iechyd, ond chi sy’n gyfrifol am yr agenda ansawdd aer. Beth a wnewch i gael trafodaethau ar draws y Cabinet i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag agweddau ar lygredd aer ledled Cymru? Ac a wnewch chi hefyd, o bosibl, ystyried cryfhau rheoliadau’r UE, cyn ac ar ôl Brexit, er mwyn edrych ar sut y gallwn sicrhau y caniateir llai o dramgwyddau i wneud yn siŵr fod ansawdd yr aer yn well, yn ogystal â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, efallai, yn plismona hynny?