<p>Gwella Ansawdd Aer Ledled Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:58, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae iechyd pobl ac amgylchedd Cymru yn mynd law yn llaw ac rwyf wedi ymrwymo i ddiogelu pobl ac amgylchedd Cymru. Mae fy swyddogion, a swyddogion iechyd yn sicr, ac yn enwedig swyddogion y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd, ac rydym wedi adolygu’r canllawiau newydd, y gwyddoch amdanynt mae’n siŵr, ar reoli ansawdd yr aer yn lleol. Rydym yn mabwysiadu ymagwedd gyfunol gydag iechyd y cyhoedd wrth ddatblygu fframwaith parth aer glân i Gymru, a bydd hwnnw’n cael ei adlewyrchu yng ngwaith gweithgor o’r grŵp rhanddeiliaid Brexit ar yr aer a’r hinsawdd. Byddwch yn gwybod am adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac rwyf eisoes wedi dweud wrthynt fod lle i gysoni’r drefn ar gyfer ansawdd aer lleol a chenedlaethol yn well ar ôl i ni adael yr UE.