<p>Busnesau Amgylcheddol yng Nghymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:11, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rhai busnesau amgylcheddol yn seiliedig ar y diwydiant coed, ac rwyf wedi mynegi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y diwydiant hwnnw o ran ei gyflenwad o bren ar gyfer y dyfodol. Nawr, mae llawer o gyfeiriadau wedi bod y prynhawn yma at rôl Cyfoeth Naturiol Cymru a’r swyddogaethau y mae’n eu cyflawni, ac mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn gwneud gwaith ardderchog, er enghraifft, yn atal ac amddiffyn rhag llifogydd. Ond rwy’n pryderu ynglŷn â’r ffordd y maent yn rheoli ein hadnodd coedwigaeth yma yng Nghymru, ac am y ffaith nad ydynt yn gwneud gwaith arbennig o dda. Roeddwn hefyd yn bryderus iawn am y contract gwerthu pren sydd wedi cael ei grybwyll yn y cyfryngau ac sydd bellach yn destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae hynny’n awgrymu i mi fod angen iddynt dorchi eu llewys mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau pren. Ac rwy’n meddwl tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni y bydd hwn yn fater o flaenoriaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol, ac y bydd gennym gyflenwad cynaliadwy o bren ar gyfer y diwydiant coed yng Nghymru yn y dyfodol.