2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 24 Mai 2017.
8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cynaliadwyedd busnesau amgylcheddol yng Nghymru? OAQ(5)0139(ERA)
Diolch. Mae gennym nifer fawr o bolisïau a rhaglenni sy’n sicrhau twf gwyrdd, megis Twf Gwyrdd Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus, ac rydym yn darparu cymorth hyblyg i fusnesau, rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig, a chefnogaeth ar gyfer datblygiadau carbon isel, o raddfa gymunedol i gynhyrchiant canolog.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae rhai busnesau amgylcheddol yn seiliedig ar y diwydiant coed, ac rwyf wedi mynegi pryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y diwydiant hwnnw o ran ei gyflenwad o bren ar gyfer y dyfodol. Nawr, mae llawer o gyfeiriadau wedi bod y prynhawn yma at rôl Cyfoeth Naturiol Cymru a’r swyddogaethau y mae’n eu cyflawni, ac mae’n rhaid i mi ddweud eu bod yn gwneud gwaith ardderchog, er enghraifft, yn atal ac amddiffyn rhag llifogydd. Ond rwy’n pryderu ynglŷn â’r ffordd y maent yn rheoli ein hadnodd coedwigaeth yma yng Nghymru, ac am y ffaith nad ydynt yn gwneud gwaith arbennig o dda. Roeddwn hefyd yn bryderus iawn am y contract gwerthu pren sydd wedi cael ei grybwyll yn y cyfryngau ac sydd bellach yn destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae hynny’n awgrymu i mi fod angen iddynt dorchi eu llewys mewn perthynas â rheoli ein hadnoddau pren. Ac rwy’n meddwl tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni y bydd hwn yn fater o flaenoriaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol, ac y bydd gennym gyflenwad cynaliadwy o bren ar gyfer y diwydiant coed yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae gweithrediadau pren masnachol yn sicr yn flaenoriaeth uchel i Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r wythnos ddiwethaf yn unig, cyfarfûm â’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd a sicrhau bod cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru yno i glywed eu pryderon. Eleni, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailstocio mwy na 1,200 hectar ar ystâd goed Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cymharu’n ffafriol iawn, rwy’n credu, ag unrhyw un o’r pum mlynedd diwethaf. Mae’n bwysig iawn bod y cydffederasiwn a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd. Rwy’n clywed adroddiadau sy’n gwrthdaro’n fawr ynglŷn â lle y caiff coed eu plannu, a ydynt yn cael eu plannu yn y lle iawn, ac a oes digon yn cael eu plannu, felly mae hwnnw’n rhywbeth rwy’n gweithio’n agos iawn arno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Rwy’n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru bob mis, ac rwy’n credu ei bod yn sicr yn eitem sefydlog bellach, am ei bod mor bwysig.