Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 24 Mai 2017.
Mae gweithrediadau pren masnachol yn sicr yn flaenoriaeth uchel i Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r wythnos ddiwethaf yn unig, cyfarfûm â’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd a sicrhau bod cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru yno i glywed eu pryderon. Eleni, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailstocio mwy na 1,200 hectar ar ystâd goed Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cymharu’n ffafriol iawn, rwy’n credu, ag unrhyw un o’r pum mlynedd diwethaf. Mae’n bwysig iawn bod y cydffederasiwn a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd. Rwy’n clywed adroddiadau sy’n gwrthdaro’n fawr ynglŷn â lle y caiff coed eu plannu, a ydynt yn cael eu plannu yn y lle iawn, ac a oes digon yn cael eu plannu, felly mae hwnnw’n rhywbeth rwy’n gweithio’n agos iawn arno gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Rwy’n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru bob mis, ac rwy’n credu ei bod yn sicr yn eitem sefydlog bellach, am ei bod mor bwysig.