<p>Nawdd Cymdeithasol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:21, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Bydd yn gwybod am ddatblygiadau diweddar yn tanseilio diwygiadau i fudd-daliadau ar lefel y DU, megis adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr a oedd yn dangos bod sancsiynau budd-daliadau yn costio mwy nag y maent yn ei arbed mewn gwirionedd—enghraifft arall o doriadau creulon wedi’u gyrru gan ideoleg a orfodwyd ar bobl yn y wlad hon. Mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill, megis yng Ngogledd Iwerddon, pan wnaethant wrthod gweithredu diwygiadau lles, llwyddasant i sicrhau £2 biliwn o wariant ychwanegol gan San Steffan, ac maent wedi cael consesiynau ar ddiwygiadau yn y dyfodol. Mae rhywfaint o bwerau nawdd cymdeithasol wedi’u datganoli i Lywodraeth yr Alban ac maent yn newid pethau fel amlder taliadau credyd cynhwysol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod beth yw fy marn i: fod angen rhwyd ddiogelwch gymdeithasol yn y wlad hon hefyd, fel yn y gweinyddiaethau eraill. A allai ystyried lansio ymgynghoriad, efallai, rywbryd yn y dyfodol agos iawn ar sut y gallwn ddefnyddio’r pwerau cyfyngedig sydd gennym eisoes yn y wlad hon i helpu pobl ar nawdd cymdeithasol, ac efallai i ymgynghori ar ba bwerau y gallem fod eisiau eu defnyddio yn y dyfodol? Oherwydd rwy’n ofni y byddwn yn cael ein cosbi hyd yn oed ymhellach yng Nghymru, tra bod gweinyddiaethau datganoledig eraill yn rhoi camau rhagweithiol ar waith i ddiogelu’r bobl sydd dan ymosodiad.