<p>Nawdd Cymdeithasol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:22, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy’n cydymdeimlo ag agwedd yr Aelod ar hyn. Dywedaf hynny gyda gair o rybudd, fodd bynnag, gan fy mod yn deall, er bod yr Alban wedi gwneud safiad ar hyn, mae yna gwestiynau mawr yn codi ynglŷn â chyllido hyn yn hirdymor. Credaf fod hwnnw’n fater ar gyfer y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a’r Alban, a hoffwn ddysgu o’r cynnig cyfan hwnnw. Wrth gwrs, rwy’n gweithio gyda nifer o sefydliadau trydydd sector a chyrff Llywodraeth ac asiantaethau sy’n gweithredu yng Nghymru ar sut y gallwn liniaru rhai o effeithiau diwygio lles. Mae’n rhywbeth sydd ar fy agenda. Byddaf yn rhoi gwybodaeth bellach i’r Siambr yn y dyfodol agos.