Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 24 Mai 2017.
Wel, unwaith eto, hoffwn wybod a ydych yn rhagweld pwerau o ran comisiynwyr heddlu a throseddu yn unig, fel y mae’r Prif Weinidog, mae’n ymddangos, neu rywbeth mwy.
Ond gan ehangu’r pwnc, gwelsom sylwadau gan gydgysylltydd atal caethwasiaeth Cymru yr wythnos diwethaf, a oedd wedi mynegi pryderon na chynhelir archwiliadau mewn nifer o bwyntiau mynediad i Gymru i atal caethwasiaeth a gweithgareddau masnachu pobl. Dywedodd y byddai’r wythnos hon yn wythnos o weithredu gan luoedd Cymru gyda’r nod o fynd i’r afael â masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern, y dywedodd ei fod wedi cynyddu 400 y cant mewn pum mlynedd, gan gynnwys plant dioddefwyr. A allwch ddweud wrthym pa ran rydych chi a Llywodraeth Cymru wedi’i chwarae yn yr ymgyrch hon a briffio’r Cynulliad ar yr hyn sydd wedi digwydd, yn awr neu yn y dyfodol?