Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Mai 2017.
Byddwn yn hapus iawn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn y Siambr yn nes ymlaen ynglŷn â manylion y rhaglenni llwyddiannus rydym yn eu gweithredu. Byddwn hefyd yn cynnig gwasanaethau ein cydgysylltydd atal masnachu pobl i unrhyw Aelodau sy’n dymuno cael eu briffio ar y mater hwn—eu briffio’n bersonol neu friffio plaid hefyd. Byddwn yn hapus i ni drefnu hynny hefyd. Ni yw’r unig ran o’r DU sydd wedi buddsoddi, fel Llywodraeth Cymru, mewn cydgysylltydd atal masnachu pobl. Rwyf wedi crybwyll hyn ar lefelau uchel iawn yn San Steffan, oherwydd er fy mod yn credu ei bod yn syniad gwych cael cydgysylltydd atal caethwasiaeth, rydym yn ynys, ac nid ydym ond yn rhan o’r ynys honno. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar yr Alban a Lloegr i fynd ar drywydd y mater hwn hefyd, a byddwn yn annog yr Aelod i grybwyll hynny wrth ei arweinwyr gwleidyddol er mwyn ceisio datrys y broblem hon yng Nghymru a Lloegr.