Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 24 Mai 2017.
Iawn, diolch am hynny. Fe arhosaf am y cyhoeddiad wrth gwrs, ond mae rhai syniadau wedi cael eu gwyntyllu gan CAMRA yn y gorffennol. Nid wyf yn gwybod a yw hi’n rhy gynnar o bosibl i ofyn beth yw eich barn chi ar y rhain. Mae un ohonynt—rwy’n derbyn ei fod yn croesi portffolios i raddau—yn ymwneud â chynllunio a pha mor hawdd yw hi i dafarndai yng Nghymru gael eu newid gan y perchnogion, gan gadwyni o dafarndai, o fod yn dafarndai i fod yn siopau neu fflatiau. Y rheswm am hyn yw nad oes gennym system gynllunio mewn gwirionedd, fel sydd ganddynt yn yr Alban, lle mae angen caniatâd cynllunio datganedig ar gyfer newid defnydd. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a oedd hwnnw’n newid y gallech ei ystyried ar gyfer Cymru.