Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 24 Mai 2017.
Fel y dywedais, mae’n fater i’w drafod ar draws y Cabinet a bydd cynllunio’n rhan o’r hyn a welwn ar gyfer ein hadeiladau cyhoeddus yn y dyfodol. Rwy’n credu bod yna lawer o ffactorau y mae’n rhaid i ni fod yn ofalus yn eu cylch hefyd. Nid oes un ateb sy’n addas i bawb, a beth bynnag sy’n digwydd yn yr Alban—os ydych am ddewis y darnau da yn yr Alban a’r darnau da yng Nghymru, mae bob amser yn anodd gwneud hynny. Mae’r materion sy’n ymwneud â hawl gymunedol i brynu ac yn y blaen, neu’r hawl i gofrestru, yn rhywbeth rwy’n edrych arno, ond rwy’n ofalus ynglŷn â diogelu adeilad nad oes unrhyw fwriad i’w brynu yn y tymor hir, er mwyn atal cais cynllunio yn unig. Mae’n rhaid inni gael cydbwysedd yn y mater. Rwy’n credu y gallai trafodaethau pellach gyda CAMRA esblygu yn dilyn fy nhrafodaethau a fy nghyhoeddiadau yn y dyfodol agos.