Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 24 Mai 2017.
Iawn, diolch am hynny. Nawr, rwy’n gwybod eich bod hefyd yn gyfrifol am Swyddfa’r Post. Yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, roedd y Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr angen am gyd-leoli, sy’n rhywbeth rydym wedi siarad amdano mewn llawer o wahanol feysydd polisi. Roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw bosibilrwydd o annog tafarndai, efallai, i gyd-leoli gyda swyddfeydd post, a allai honno fod yn ffordd ymlaen i helpu hyfywedd tafarndai yn y dyfodol.