Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 24 Mai 2017.
Rwyf wedi cael ambell drafodaeth gyda’r Gweinidog cynllunio mewn gwirionedd, a chyda rhai cwmnïau cyhoeddus hefyd i wneud yn siŵr y gallwn ystyried hyn wrth i ni symud ymlaen. Mae’n rhan bwysig o symud y dechnoleg yn ei blaen, ac rwy’n aml yn clywed yr Aelod yn sôn am ddigonolrwydd band eang yn ei etholaeth ef hefyd. Ond mae’n rhywbeth rydym yn ei drafod gyda datblygwyr a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.