Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 24 Mai 2017.
Wrth gwrs, nid yw fforddiadwyedd yn ymwneud yn unig â phrynu neu rentu cartref. Mae hefyd yn ymwneud â fforddiadwyedd cynnal a bod mewn cartref cynnes a diogel. Mae hynny’n arbennig o wir yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, lle mae llawer o gartrefi oddi ar y grid a lle nad oes ganddynt fynediad at y grid nwy yn enwedig ac maent yn dibynnu ar danwydd solet neu olew neu nwy wedi’i fewnforio. Beth a wnewch felly i sicrhau bod y cartrefi rydych yn eu hadeiladu, neu’n annog iddynt gael eu hadnewyddu, o’r safonau amgylcheddol uchaf a’u bod yn darparu manteision amgylcheddol da, ond hefyd, yn bwysig iawn, eu bod yn rhoi budd i denantiaid neu berchnogion y tai hynny o ran cynnal a chadw parhaus a chostau byw yno?