Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 24 Mai 2017.
Yn ystod y ddadl ar y rhaglen Cefnogi Pobl y llynedd, fe ddywedoch ei bod yn
‘yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG’, yn enwedig wrth siarad am iechyd meddwl, fel y byddwch yn cofio mae’n siŵr. Rwy’n credu ein bod i gyd yn derbyn ei bod yn hynod o anodd dangos tystiolaeth a phrofi bod dulliau atal yn gweithio, ond a oes gennych unrhyw ddata a all eich helpu i hyrwyddo gwariant ar y cyd ar draws y ddau bortffolio ac ychwanegu gwerth mewn gwirionedd i’r gyllideb honno sydd wedi’i diogelu?