<p>Rhaglen Cefnogi Pobl</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:58, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion pellach ac enghreifftiau. Ceir cyrff gweithredol gwych ledled Cymru a all ddangos buddsoddiad swm bach o ffrwd ariannu’r rhaglen Cefnogi Pobl yn glir iawn, sydd â manteision lluosog yn y ffordd honno. Wrth gwrs, dyna sut y dylai Llywodraeth ac asiantaethau fod yn meddwl wrth ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan wneud yn siŵr fod goblygiadau un yn effeithio’n gadarnhaol ar y llall, os yw’n bosibl i ni gyflawni hynny. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gydag ychydig mwy o fanylion.