3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 24 Mai 2017.
10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cefnogi Pobl? OAQ(5)0141(CC)
Diolch. Mae’r rhaglen Cefnogi Pobl yn helpu pobl i osgoi neu oresgyn digartrefedd a byw mor annibynnol â phosibl. I gydnabod ei rôl allweddol, rydym wedi diogelu’r £124.4 miliwn o gyllid rhag toriadau ers 2015-16.
A gaf fi groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac yn sicr, y penderfyniad i ddiogelu’r arian? Hoffwn hefyd dynnu sylw at ba mor ddefnyddiol y mae’r rhaglen wedi bod yn fy etholaeth yn Nwyrain Abertawe. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae newidiadau i fudd-daliadau wedi effeithio ar y rhaglen Cefnogi Pobl?
Wel, yr hyn rydym yn ei wybod yw ein bod wedi diogelu hyn yng Nghymru. Yn Lloegr, maent wedi cael gwared ar y rhaglen Cefnogi Pobl o ran yr arian a glustnodwyd, sydd wedi cael effaith negyddol enfawr ar unigolion ar hyd a lled Lloegr. Mae gennyf sector Cefnogi Pobl blaengar iawn a gynhelir gan arweinydd gwych ar hyn o bryd sef Katie Dalton o Cymorth Cymru, sy’n gweithio’n galed iawn i sicrhau bod yr arian rydym wedi’i fuddsoddi yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad gan lawer o’r sefydliadau y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt, yn enwedig yn Nwyrain Abertawe, fel y mae wedi’i grybwyll yma heddiw.
Yn ystod y ddadl ar y rhaglen Cefnogi Pobl y llynedd, fe ddywedoch ei bod yn
‘yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG’, yn enwedig wrth siarad am iechyd meddwl, fel y byddwch yn cofio mae’n siŵr. Rwy’n credu ein bod i gyd yn derbyn ei bod yn hynod o anodd dangos tystiolaeth a phrofi bod dulliau atal yn gweithio, ond a oes gennych unrhyw ddata a all eich helpu i hyrwyddo gwariant ar y cyd ar draws y ddau bortffolio ac ychwanegu gwerth mewn gwirionedd i’r gyllideb honno sydd wedi’i diogelu?
Wrth gwrs, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion pellach ac enghreifftiau. Ceir cyrff gweithredol gwych ledled Cymru a all ddangos buddsoddiad swm bach o ffrwd ariannu’r rhaglen Cefnogi Pobl yn glir iawn, sydd â manteision lluosog yn y ffordd honno. Wrth gwrs, dyna sut y dylai Llywodraeth ac asiantaethau fod yn meddwl wrth ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan wneud yn siŵr fod goblygiadau un yn effeithio’n gadarnhaol ar y llall, os yw’n bosibl i ni gyflawni hynny. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gydag ychydig mwy o fanylion.