Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’r gair ‘dysgu’ yn golygu addysgu a dysgu. Fel y mae’r Athro Dylan William o Goleg Prifysgol Llundain wedi’i nodi, mae’r persbectif ieithyddol a diwylliannol hwn yn dangos yn daclus na ellir gwahanu ansawdd addysgu a dysgu. Mae asesu ar gyfer dysgu yn golygu bod yr addysgu bob amser yn ymaddasol, yn benodol i anghenion y dysgwr ac yn cefnogi codi safonau ar gyfer pawb.
Roedd adroddiad diweddar y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar ein taith i ddiwygio addysg yn cydnabod bod ymrwymiad i wella addysgu a dysgu yn ein hysgolion yn weladwy ar bob lefel o’r system addysg. Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai ein diwygiadau ganolbwyntio ar ddatblygu proffesiwn addysgu o ansawdd uchel, gan wneud arweinyddiaeth yn sbardun allweddol ar gyfer diwygio, a chan sicrhau tegwch o ran cyfleoedd dysgu a llesiant disgyblion, a symud tuag at system newydd o asesu, gwerthuso ac atebolrwydd sy’n gyson â chwricwlwm newydd yr unfed ganrif ar hugain.
Siaradais am ein cynlluniau i ddatblygu arweinyddiaeth yn y Siambr yr wythnos diwethaf. Heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar asesu: sut beth yw asesu da, yr hyn rydym wedi ei wneud hyd yma a’r hyn y byddwn yn ei wneud i ddatblygu fframwaith asesu a gwerthuso newydd. Ac ar y ffordd, Dirprwy Lywydd, hoffwn chwalu rhai mythau am ein profion cenedlaethol hefyd. Mae gan asesu parhaus o ansawdd uchel rôl hanfodol i’w chwarae wrth addysgu, dysgu a chodi safonau. Dylai fod yn nodwedd naturiol ac annatod o ymarfer yn yr ystafell ddosbarth, a bydd trefniadau asesu yn y dyfodol yn rhoi blaenoriaeth i hyn. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, consortia rhanbarthol ac yn derbyn cyngor arbenigwyr rhyngwladol ar asesu, megis Dylan William a John Hattie, er mwyn sicrhau bod yna bwyslais newydd ar asesu ar gyfer dysgu, a bod y dysgwr yn ganolog i’n hargymhellion.
Mae asesu ar gyfer dysgu yn enghraifft o addysgu ymatebol. Dyma’r bont rhwng addysgu a’r ffordd rydym yn darganfod a yw gweithgareddau a phrofiadau yn yr ystafell ddosbarth wedi arwain at y dysgu a fwriadwyd. Mae’n arf pwerus sy’n gallu sbarduno cynnydd a chodi lefelau cyrhaeddiad ein holl ddysgwyr. Ein gweledigaeth yw mai prif ddiben asesu yw darparu gwybodaeth a all lywio penderfyniadau ynglŷn â’r ffordd orau i ddatblygu dysgu pobl ifanc ac adrodd am y cynnydd hwnnw wrth eu rhieni a’u gofalwyr. Trwy wneud hynny, dylai asesu wella’r dysgu a wneir gan ddysgwyr, yr addysgu a wneir gan athrawon a dealltwriaeth rhieni a gofalwyr.
Mae ymchwil o bob cwr o’r byd wedi dangos bod asesu ar gyfer dysgu yn cynnig ffordd effeithiol i ni gyflawni ein hamcanion ar gyfer system addysg sy’n perfformio’n dda ac sy’n rhoi’r gallu i ddysgwyr fod yn ddysgwyr gydol oes. Y dysgwyr sy’n cael adborth o ansawdd uchel, sy’n deall lle maent arni yn eu dysgu, lle mae angen iddynt fynd nesaf, ac yn hollbwysig, sut i gyrraedd yno, yw’r rhai mwyaf tebygol o wneud y gwelliant mwyaf.
Fel y byddwch yn gwybod o fy natganiad ysgrifenedig yn ddiweddar, mae’n bosibl mai un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous y bydd ysgolion yn ei weld yn y blynyddoedd i ddod yw’r newid o’r profion darllen a rhifedd papur traddodiadol y mae dysgwyr yn eu gwneud bob blwyddyn, i asesiad ar-lein ymaddasol wedi’i bersonoli. Bydd yr asesiadau newydd yn addasu anhawster y cwestiynau i gyd-fynd ag ymateb y dysgwr, gan gymhwyso i ddarparu her addas i bob unigolyn. Mae hyn yn golygu y bydd pob dysgwr yn cael cwestiynau sy’n gydnaws â’u sgiliau unigol ac yn eu herio mewn darllen a rhifedd. Bydd ysgolion yn cael gwybodaeth o ansawdd uchel wedi’i theilwra am sgiliau pob dysgwr a gallant ddefnyddio’r wybodaeth honno fel tystiolaeth ychwanegol i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer addysgu a dysgu. Bydd y profion yn marcio eu hunain ac yn gydnaws â systemau rheoli gwybodaeth ysgolion. Bydd athrawon a dysgwyr yn cael adborth penodol ac uniongyrchol o ansawdd uchel, a bydd hynny’n rhoi gwell syniad iddynt ynglŷn â sut y gallant fynd i’r afael â chryfderau a gwendidau pob dysgwr. Ceir llawer o fanteision i weithredu asesiadau wedi’u personoli, ond gadewch i mi fod yn gwbl glir fod y profion papur cyfredol yn rhannu’r un diben yn union. Mae ychydig o fythau’n cylchredeg o hyd mewn perthynas â’r profion cenedlaethol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro’r sefyllfa.
Yn gyntaf, mae’r profion yn hollol wahanol i’r TASau yn Lloegr, lle y caiff canlyniadau eu cyhoeddi ac ysgolion yn cael eu graddio ar sail sgoriau profion. Cafodd ein profion eu gweithredu i gefnogi addysgu a dysgu, ac ni fwriadwyd iddynt fod yn asesiadau lle mae llawer yn y fantol. Nid yw Llywodraeth Cymru’n defnyddio canlyniadau’r profion i farnu perfformiad ysgolion. Yr allwedd i’n dull o weithredu yw bod y ffocws ar yr hyn y mae’r profion yn ei ddweud wrth athrawon, a hynny wedyn yn cael ei ddefnyddio i helpu i gynllunio ar gyfer camau nesaf y dysgwyr ac i ddatblygu sgiliau craidd a gwybodaeth. Ar hyn o bryd, gwyddom nad yw asesu ar gyfer dysgu yn rhywbeth sydd bob amser yn cael ei ddeall neu ei ymgorffori’n dda ym mhob ysgol. Dyna pam rwyf wedi ailffocysu gweithgareddau i wella hyder wrth ei ddefnyddio.
Yn gynharach eleni, deuthum â’r rhaglen wirio allanol i ben, ac amlinellais ein bwriad i sefydlu rhaglen a fyddai’n cynnal y nod gwreiddiol o wella asesiadau athrawon, ond gyda mwy o ffocws ar anghenion athrawon a’u dysgu proffesiynol. Yn ogystal, rydym wedi newid y dull o adrodd ar y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol. Yr wythnos diwethaf, hysbyswyd yr ysgolion na fyddai ond yn rhaid iddynt gynhyrchu adroddiadau rhieni ar y fframwaith llythrennedd a rhifedd cenedlaethol ar gyfer Cymraeg, Saesneg a mathemateg yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, a datblygiad iaith, llythrennedd a chyfathrebu a mathemategol yn ystod y cyfnod sylfaen. Bydd cael gwared ar y disgwyliad i greu adroddiadau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm yn caniatàu i ysgolion ganolbwyntio eu hymdrechion ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd wrth gynllunio cwricwlwm effeithiol a dulliau asesu ar gyfer dysgu.
Mewn dull cydlynol a chyfunol o godi safonau a disgwyliadau, mae asesu ac atebolrwydd yn hanfodol i’n diwygiadau parhaus a datblygu a chyflwyno’r cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, yn y gorffennol, mae’r llinellau rhwng y ddau yn aml wedi bod yn aneglur, gan arwain at ganlyniadau negyddol anfwriadol yn yr ystafell ddosbarth a diffyg ffocws ar safonau cyffredinol. Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn ag atebolrwydd. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn cydnabod ac yn hyrwyddo addysgu a dysgu o ansawdd uchel fel ein bod yn codi safonau, yn lleihau’r bwlch cyrhaeddiad ac yn darparu system addysg sy’n ffynhonnell wirioneddol o falchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol.