Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ac am fy hysbysu yn ei gylch ymlaen llaw. Rwy’n credu y byddai pawb ohonom yn y Siambr hon yn cytuno ein bod am weld proses asesu drylwyr yma yng Nghymru sy’n deg i’r dysgwr, sy’n helpu i roi gwybod i athrawon sut i fynd ati yn y ffordd orau i ymateb i’w hanghenion, ond sydd hefyd yn gweithredu fel system feincnodi ar hyd a lled Cymru gyfan, fel y gallwn gymharu a chyferbynnu perfformiad disgyblion o fewn ysgolion ac yn wir, cymharu a chyferbynnu perfformiad gwahanol ysgolion hefyd.
Gwyddom nad yw’r system gyfredol yn berffaith. Mae llawer gormod o hunanwerthuso, os mynnwch, yn y system gyfredol ac nid oes digon o safoni, ac felly dyna pam roeddwn yn falch iawn o groesawu’r newid tuag at brofion ar-lein mwy ymatebol wedi’u personoli pan gyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hynny’n gynharach eleni, a chredaf fod hwnnw’n sicr yn gam i’r cyfeiriad cywir. Ond rwyf am ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fod yn rhaid i ni hefyd beidio â bod ofn parhau i roi ein plant a’n pobl ifanc mewn sefyllfa arholiad gyda phrofion papur. Oherwydd yn y pen draw, y profion papur hynny lle mae llawer yn y fantol y byddant yn eu gwneud pan fyddant yn cyrraedd oedran TGAU a phan fyddant yn cyrraedd oedran Uwch Gyfrannol a Safon Uwch—ni fyddant yn eu dychryn cymaint os ydynt wedi cael llawer o brofiad o wneud prawf. Nid ydynt yn mynd i fod yn eistedd wrth gyfrifiaduron i wneud y profion hynny, felly mae’n bwysig eu bod yn cael profiad o’r profion hyn yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr ysgolion ar wahanol adegau.
Nawr, rwy’n gwybod eich bod yn dweud—ac rydych yn hoffi gwahaniaethu’n fawr rhwng y profion TASau yn Lloegr a’r profion rydym wedi’u cael yn draddodiadol yma yng Nghymru, ac rydych yn dweud nad yw hynny’n rhywbeth lle rydym yn mynd i restru ysgolion. Ond yn y pen draw, mae angen iddynt fod yn bethau a ddefnyddir i reoli perfformiad mewn ysgolion, ac i reoli’r sylw y mae awdurdodau lleol yn ei roi i ysgolion a sylw consortia rhanbarthol i ysgolion os nodir gwendidau yn y canlyniadau hynny. Rwy’n credu ei bod yn iawn i ganlyniadau’r profion hynny gael eu rhannu gyda rhieni, oherwydd yn y pen draw, dylid grymuso rhieni i allu gwneud penderfyniadau ynglŷn â pha ysgolion y maent am i’w plant gael eu haddysgu ynddynt. Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallant ei gael, yn fy marn i, gan gynnwys gwybodaeth am brofion a chanlyniadau’r profion hynny.
Rwy’n sylweddoli y gallwch wthio’r pendil yn rhy bell a defnyddio marcwyr yn unig ar bethau fel y cyflawniadau yn y mathau hyn o brofion a’u gorbwysleisio, os mynnwch, a methu ystyried pethau eraill yn briodol mewn ysgolion. Dyna pam rydym wedi bod yn gefnogol fel plaid i system y categorïau gwyrdd, melyn a choch a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n bwysig fod honno hefyd yn system gadarn. Ysgrifennydd y Cabinet, gwn eich bod am i honno fod yn system gadarn sy’n adlewyrchu perfformiad ysgolion mewn ystyr hollgynhwysol a chyfannol. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod y canlyniadau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael mewn profion fel y rhai rydym yn sôn amdanynt heddiw—yr asesu ar gyfer dysgu—yn ddangosydd pwysig o berfformiad ysgolion, a rhaid inni beidio â’u hanwybyddu.
Gwyddom fod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud wrthym fod yna lawer o athrawon ar bob lefel sydd heb y sgiliau i weithredu asesiadau ffurfiannol o ansawdd a defnyddio’r data asesu hwnnw i gynorthwyo myfyrwyr gyda’u dysgu. Rwy’n credu ei bod yn iawn inni fynd ar ôl y pwynt hwnnw, ac roeddwn yn falch eich bod wedi cyfeirio at y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a’r gwaith y maent yn ei wneud ar oruchwylio peth o weithrediad y gwaith hwn yn y dyfodol. Gwyddom hefyd, wrth gwrs, o arolwg diweddar Cyngor y Gweithlu Addysg o’r gweithlu addysg yng Nghymru, mai un o’r problemau eraill sydd gennym yw cyfathrebu’r newidiadau sy’n digwydd yma yn ein system addysg yng Nghymru i’n hathrawon. Tybed felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthym sut y bwriadwch sicrhau bod yna ymateb priodol gan y gweithlu addysg i’r trefniadau profi newydd hyn wrth iddynt gael eu cyflwyno yma yng Nghymru, beth a wnewch i fonitro’r ffordd y mae’r gweithlu addysg yn defnyddio’r wybodaeth mewn ffordd hyderus i newid eu hymarfer er mwyn iddynt allu cynorthwyo dysgwyr yn well, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i ni fel Cynulliad nad ydym yn cael gwared yn gyfan gwbl ar y profion papur mewn llythrennedd, rhifedd, a’r holl bynciau eraill, fel y gallwn barhau i baratoi ein plant yn dda wrth iddynt wynebu’r profion hynny lle mae llawer yn y fantol a ddaw yn nes ymlaen yn eu bywydau.