Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â gorfodi rheolau a chyfreithiau lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd. Dros y naw mlynedd ddiwethaf, mae swyddogion gorfodi morol, yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, wedi ymchwilio i dramgwyddau yn erbyn deddfau pysgodfeydd yn ein dyfroedd, gan arwain at 38 o erlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys 11 y llynedd. Rydym hefyd wedi rhoi camau gorfodi ar waith sydd wedi cynnwys erlyn, mewn rhai achosion, mewn perthynas â thramgwyddau yn erbyn deddfwriaeth i reoli lledaeniad TB a TSE, rheoli’r modd y caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid eu trin, rheoleiddio’r broses o farchnata cynnyrch garddwriaethol a chynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl. Mae ein cyfrifoldebau erlyn hefyd yn cynnwys gofal cymdeithasol, gofal plant a gofal iechyd annibynnol.
Ym mhob maes, rydym wedi ymrwymo i erlyn yn deg ac yn effeithiol fel ffordd o gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn unigolion, y cyhoedd a’n hadnoddau, a sicrhau ein bod i gyd yn byw mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn. Rydym hefyd yn cydnabod bod goblygiadau difrifol yn deillio o bob erlyniad i bawb sydd ynghlwm wrtho, yn cynnwys tystion a diffynyddion. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw rhagddi i erlyn, mae’n bwysig fod gan y cyhoedd hyder yn ein gweithredoedd, a rhan fawr o hynny yw egluro sut y gwnaethom ein penderfyniadau a sut rydym yn cynnal cyfiawnder.
Am y rheswm hwnnw, rwy’n falch o lansio ymgynghoriad heddiw ar god erlyn arfaethedig Llywodraeth Cymru. Fy nghyfrifoldeb i fel Cwnsler Cyffredinol yw penderfyniadau erlyn yn Llywodraeth Cymru, oni bai bod penderfyniadau erlyn wedi’u cyfyngu’n benodol i Weinidogion Cymru gan y darpariaethau statudol perthnasol. Mae’r modd rwy’n gwneud y cyfryw benderfyniadau erlyn wedi’i nodi yn y cod gweinidogol. Felly, mae’n rhaid i mi arfer y swyddogaethau erlyn a freiniwyd ynof fi, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ac ni ddylai aelodau eraill y Llywodraeth chwarae rhan. Lle byddaf yn cychwyn achos, yn amddiffyn neu’n ymddangos mewn achos cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Gweinidogion Cymru, yna unwaith eto rhaid i mi weithredu’n annibynnol ar y Llywodraeth.
Ceir adegau pan fydd y Prif Weinidog neu un o Weinidogion Cymru yn ymgymryd â swyddogaeth erlynydd. Mae’r cod gweinidogol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddod i gysylltiad â mi er mwyn i mi roi cyngor ar y penderfyniad i erlyn fel swyddog y gyfraith. Ond ym mhob achos, mae angen i mi seilio fy nghyngor a rhoi fy mhenderfyniadau mewn grym drwy ystyried a yw’r achos yn addas ar gyfer erlyn. Gwnaf hynny drwy gyfeirio at god erlyniad. Ar hyn o bryd, rwy’n defnyddio cod Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr y Goron, sy’n galw am ystyriaeth o’r prawf cod llawn.
Mae dau gam penodol i’r prawf: yn gyntaf, y cam tystiolaethol ac yn ail, y cam lles y cyhoedd. Mae’r cam tystiolaethol yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fod yn fodlon fod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob un a ddrwgdybir am bob trosedd. Mae’r cam lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fynd ati i ystyried a oes angen erlyniad er lles y cyhoedd. Mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi nifer o ffactorau i erlynwyr eu hystyried wrth benderfynu ar les y cyhoedd.
Fodd bynnag, datblygwyd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn bennaf i’w ddefnyddio mewn perthynas â throseddau prif ffrwd. Felly, mae’n ystyried y math o erlyniadau sy’n cael eu cychwyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu. Mae yna rannau o god Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd nad ydynt yn berthnasol i Lywodraeth Cymru. Felly, yng ngoleuni hyn, ac ynghyd â’r ffaith fod swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu, rwyf o’r farn ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru ddatblygu a dilyn ei chod erlyn ei hun.
Bydd cod erlyn arfaethedig Llywodraeth Cymru felly yn darparu canllawiau i erlynwyr ar yr egwyddorion sydd i’w cymhwyso wrth wneud penderfyniadau am erlyniadau Llywodraeth Cymru. I fod yn glir, mae’r cod arfaethedig yn seiliedig ar god presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron, ond cafodd ei addasu i ystyried swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru. Felly, nid yw’r cod arfaethedig yn cynnwys pob un o’r materion sydd wedi’u cynnwys yng nghod Gwasanaeth Erlyn y Goron. Er enghraifft, nid yw’r cod yn cynnwys y prawf trothwy sy’n gymwys mewn perthynas ag achosion gwarchodaeth.
Mae ein cod, fodd bynnag, yn cynnwys ffactorau lles y cyhoedd penodol sy’n ymwneud ag erlyniadau Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, bydd angen i erlynwyr ystyried effaith unrhyw droseddu ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu ar yr amgylchedd, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad. A bydd angen i erlynwyr ystyried a oes elfen o berygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd. Mae’r cod arfaethedig hefyd yn nodi fy mhŵer cyffredinol i gychwyn erlyniadau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Fel y dywedais yn gynharach, mae’r penderfyniad i erlyn yn gam difrifol. Nod y cod arfaethedig yw sicrhau bod penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau yn cael eu gwneud o fewn Llywodraeth Cymru. Cyn i mi gyhoeddi’r cod, hoffwn roi cyfle i randdeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd roi sylwadau a lleisio’u barn. Bydd hyn yn fy ngalluogi i gyhoeddi cod erlyn Llywodraeth Cymru sy’n glir, yn hygyrch ac yn addas i’r diben.