– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 24 Mai 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: ymgynghoriad ar god erlyn Llywodraeth Cymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â gorfodi rheolau a chyfreithiau lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd. Dros y naw mlynedd ddiwethaf, mae swyddogion gorfodi morol, yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, wedi ymchwilio i dramgwyddau yn erbyn deddfau pysgodfeydd yn ein dyfroedd, gan arwain at 38 o erlyniadau llwyddiannus, gan gynnwys 11 y llynedd. Rydym hefyd wedi rhoi camau gorfodi ar waith sydd wedi cynnwys erlyn, mewn rhai achosion, mewn perthynas â thramgwyddau yn erbyn deddfwriaeth i reoli lledaeniad TB a TSE, rheoli’r modd y caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid eu trin, rheoleiddio’r broses o farchnata cynnyrch garddwriaethol a chynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl. Mae ein cyfrifoldebau erlyn hefyd yn cynnwys gofal cymdeithasol, gofal plant a gofal iechyd annibynnol.
Ym mhob maes, rydym wedi ymrwymo i erlyn yn deg ac yn effeithiol fel ffordd o gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn unigolion, y cyhoedd a’n hadnoddau, a sicrhau ein bod i gyd yn byw mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn. Rydym hefyd yn cydnabod bod goblygiadau difrifol yn deillio o bob erlyniad i bawb sydd ynghlwm wrtho, yn cynnwys tystion a diffynyddion. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn bwrw rhagddi i erlyn, mae’n bwysig fod gan y cyhoedd hyder yn ein gweithredoedd, a rhan fawr o hynny yw egluro sut y gwnaethom ein penderfyniadau a sut rydym yn cynnal cyfiawnder.
Am y rheswm hwnnw, rwy’n falch o lansio ymgynghoriad heddiw ar god erlyn arfaethedig Llywodraeth Cymru. Fy nghyfrifoldeb i fel Cwnsler Cyffredinol yw penderfyniadau erlyn yn Llywodraeth Cymru, oni bai bod penderfyniadau erlyn wedi’u cyfyngu’n benodol i Weinidogion Cymru gan y darpariaethau statudol perthnasol. Mae’r modd rwy’n gwneud y cyfryw benderfyniadau erlyn wedi’i nodi yn y cod gweinidogol. Felly, mae’n rhaid i mi arfer y swyddogaethau erlyn a freiniwyd ynof fi, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ac ni ddylai aelodau eraill y Llywodraeth chwarae rhan. Lle byddaf yn cychwyn achos, yn amddiffyn neu’n ymddangos mewn achos cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Gweinidogion Cymru, yna unwaith eto rhaid i mi weithredu’n annibynnol ar y Llywodraeth.
Ceir adegau pan fydd y Prif Weinidog neu un o Weinidogion Cymru yn ymgymryd â swyddogaeth erlynydd. Mae’r cod gweinidogol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddod i gysylltiad â mi er mwyn i mi roi cyngor ar y penderfyniad i erlyn fel swyddog y gyfraith. Ond ym mhob achos, mae angen i mi seilio fy nghyngor a rhoi fy mhenderfyniadau mewn grym drwy ystyried a yw’r achos yn addas ar gyfer erlyn. Gwnaf hynny drwy gyfeirio at god erlyniad. Ar hyn o bryd, rwy’n defnyddio cod Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr y Goron, sy’n galw am ystyriaeth o’r prawf cod llawn.
Mae dau gam penodol i’r prawf: yn gyntaf, y cam tystiolaethol ac yn ail, y cam lles y cyhoedd. Mae’r cam tystiolaethol yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fod yn fodlon fod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob un a ddrwgdybir am bob trosedd. Mae’r cam lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fynd ati i ystyried a oes angen erlyniad er lles y cyhoedd. Mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn nodi nifer o ffactorau i erlynwyr eu hystyried wrth benderfynu ar les y cyhoedd.
Fodd bynnag, datblygwyd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn bennaf i’w ddefnyddio mewn perthynas â throseddau prif ffrwd. Felly, mae’n ystyried y math o erlyniadau sy’n cael eu cychwyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a’r heddlu. Mae yna rannau o god Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd nad ydynt yn berthnasol i Lywodraeth Cymru. Felly, yng ngoleuni hyn, ac ynghyd â’r ffaith fod swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu, rwyf o’r farn ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru ddatblygu a dilyn ei chod erlyn ei hun.
Bydd cod erlyn arfaethedig Llywodraeth Cymru felly yn darparu canllawiau i erlynwyr ar yr egwyddorion sydd i’w cymhwyso wrth wneud penderfyniadau am erlyniadau Llywodraeth Cymru. I fod yn glir, mae’r cod arfaethedig yn seiliedig ar god presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron, ond cafodd ei addasu i ystyried swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru. Felly, nid yw’r cod arfaethedig yn cynnwys pob un o’r materion sydd wedi’u cynnwys yng nghod Gwasanaeth Erlyn y Goron. Er enghraifft, nid yw’r cod yn cynnwys y prawf trothwy sy’n gymwys mewn perthynas ag achosion gwarchodaeth.
Mae ein cod, fodd bynnag, yn cynnwys ffactorau lles y cyhoedd penodol sy’n ymwneud ag erlyniadau Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, bydd angen i erlynwyr ystyried effaith unrhyw droseddu ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu ar yr amgylchedd, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad. A bydd angen i erlynwyr ystyried a oes elfen o berygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd. Mae’r cod arfaethedig hefyd yn nodi fy mhŵer cyffredinol i gychwyn erlyniadau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Fel y dywedais yn gynharach, mae’r penderfyniad i erlyn yn gam difrifol. Nod y cod arfaethedig yw sicrhau bod penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau yn cael eu gwneud o fewn Llywodraeth Cymru. Cyn i mi gyhoeddi’r cod, hoffwn roi cyfle i randdeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd roi sylwadau a lleisio’u barn. Bydd hyn yn fy ngalluogi i gyhoeddi cod erlyn Llywodraeth Cymru sy’n glir, yn hygyrch ac yn addas i’r diben.
A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Mae gorfodi deddfau lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd yn briodol yn bwysig iawn—mae’r rhain yn gyfrifoldebau pwysig. Ac wrth gwrs, gyda gorfodaeth effeithiol, ceir hunangydymffurfiaeth a chydymffurfiaeth naturiol gynyddol. Dyna, mae’n debyg, yw’r hyn rydym ei eisiau.
Mae’r pwerau hyn wedi cael eu harfer gan Lywodraeth Cymru ers peth amser, ond wrth i ni gynhyrchu mwy o ddeddfwriaeth, rydym hefyd yn creu cyfrifoldebau gorfodi newydd—er enghraifft, y rhai yn y Bil iechyd y cyhoedd yn ddiweddar. Yn y maes hwn, rwy’n credu bod y cyfeiriad at y sylfaen dystiolaeth yn bwysig, oherwydd mewn llawer o’r troseddau hyn, bydd y dystiolaeth ar eu cyfer, neu’r dystiolaeth bosibl, yn cael ei chasglu gan bobl ar wahân i swyddogion yr heddlu.
Tybed a wrandawodd y Cwnsler Cyffredinol ar y ddadl ar y Bil iechyd y cyhoedd yng Nghyfnod 3, pan gefnogodd yr holl wrthbleidiau welliant, er enghraifft, ar nodi cyfrifoldebau hawliau dynol swyddogion gorfodi yn glir. Nid yw’r swyddogion hyn o reidrwydd yn y sector cyhoeddus hyd yn oed. Yn y ddeddfwriaeth benodol honno, o leiaf, Bil iechyd y cyhoedd, cafodd ei egluro yn y diwedd—y byddent yn weithwyr awdurdodau lleol.
Ond yn bendant mae cael datganiad clir yn y gyfraith o rwymedigaethau hawliau dynol yn bwysig pan fyddwn yn casglu tystiolaeth. Ar hyn o bryd, rydym yn dibynnu ar Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a’r egwyddorion cyffredinol sydd wedi’u gwasgaru drwy’r llyfr statud, yn hytrach na’u bod wedi’u mynegi’n glir yn y ddeddf rydym yn ei phasio. Tybed a yw’n pryderu ynglŷn â’r goblygiadau ar gyfer cyflawni rhwymedigaethau hawliau dynol, sydd, wrth gwrs, yn un o’r egwyddorion cyffredinol mewn perthynas ag erlyn a nodir yn ei god arfaethedig, o dan adran 11. Felly, mae’n rhywbeth y credaf fod angen i ni roi sylw arbennig iddo, a thrwy arfer ein cyfrifoldebau’n briodol yn unig y byddwn yn rhoi hyder llawn i bobl fod y gyfraith yn cael ei gorfodi’n drylwyr ond hefyd gyda phob tegwch priodol ar yr unigolion a’r sefydliadau dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â hawliau dynol pobl.
Hoffwn wybod hefyd a yw wedi gwneud unrhyw—. Roedd yn awgrymu bod y cyfrifoldebau hyn ar gynnydd, ond a yw wedi gwneud unrhyw asesiad o’r cynnydd tebygol mewn gweithgaredd erlyn a gorfodi a fydd yn digwydd yn awr wrth i gyfraith Cymru ddod yn fwyfwy neilltuol? Pa fath o gapasiti sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r cyfrifoldebau hynny? Yr adran gyfredol y mae’n bennaeth arni—a oes ganddi’r capasiti angenrheidiol i arfer y swyddogaethau hyn yn y dyfodol?
Rwy’n credu bod hwn yn ddatganiad i’w groesawu, ac mae wedi tynnu sylw at faes yr ydym yn dal i ddysgu amdano, o bosibl, ond rwy’n tybio y daw’n fwyfwy pwysig yn y dyfodol.
Yn gyntaf, diolch i’r Aelod am y pwyntiau pwysig ac ystyriol iawn a wnaeth yn fy marn i. Wrth gwrs, mae’n hollol gywir am y pwyntiau sy’n codi, mewn gwirionedd, yn yr egwyddorion drafft mewn perthynas â hawliau dynol. Mae’r cod—er bod tebygrwydd sylweddol rhyngddo a chod Gwasanaeth Erlyn y Goron, oherwydd y cynnydd yn y cyfrifoldebau, a’r cynnydd yn y cyfrifoldebau erlyn yn arbennig, penderfynasom fod arnom angen cod Cymreig a oedd yn adlewyrchu naws a pheth o’r pwyslais arbennig, rwy’n meddwl, sy’n deillio o ddeddfwriaeth Gymreig mewn gwirionedd.
Felly, yn ogystal â’r pwynt penodol hwnnw, mae’r pwynt a wnaethom am faterion penodol effaith ar yr amgylchedd, gan fod llawer o’n pwerau’n ymwneud â phethau fel yr amgylchedd, bwyd, amaethyddiaeth ac yn y blaen. Ond mae’n hollol gywir hefyd, wrth gwrs, fod y pwerau hynny’n ymestyn i ystod eang o feysydd eraill hefyd, ac mae angen inni sicrhau nid yn unig fod y cod yn effeithiol ond bod y ffordd y mae’n cael ei gymhwyso yn gadarn.
Rwy’n meddwl mai’r pwynt yr oedd yr Aelod yn dechrau ei gyrraedd oedd y mater ynglŷn ag a fydd angen gwasanaeth erlyn Cymreig, rywbryd yn y dyfodol, yn hytrach na’r trefniadau presennol. Nid yw hynny’n fwriad ar hyn o bryd, ond nid oes sicrwydd llwyr na fydd yn digwydd—mae’n un o’r pethau sy’n rhaid i ni roi cryn sylw iddo, yn enwedig yn yr hinsawdd bresennol, wrth i fwy o bwerau ddod, wrth i ni gynyddu deddfwriaeth ac wrth i god troseddol Cymru i bob pwrpas ddod yn fwy arwyddocaol. Wrth gwrs, mae’r holl bwyntiau am ansawdd y dystiolaeth, cadernid y dystiolaeth a’r modd y diffiniwn les y cyhoedd, a nodir yn fanwl yn y canllawiau, yn bwysig iawn yn wir.
Rwy’n meddwl mai’r pwynt arall a wnaeth yw bod yna gyrff eraill yng Nghymru wrth gwrs. Mae awdurdodau lleol, fel y crybwyllodd, yn gyrff erlyn yn draddodiadol—pwerau tebyg iawn mewn perthynas â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ardaloedd eu hawdurdodaeth. Wrth gwrs, er bod ganddynt eu cod eu hunain, rwy’n meddwl y byddem yn gobeithio, dros gyfnod o amser, y bydd y ddibyniaeth ar god Cymru yn dod yn sail i hynny. Ond mae’n amlwg fod llawer yn digwydd—llawer yn y pair.
Rwy’n credu ei fod hefyd wedi crybwyll y mater ynglŷn â sut rydym yn mynd i asesu’r cynnydd. Rwy’n credu mai’r hyn rydym wedi dechrau ei wneud yw edrych ar niferoedd yr achosion rydym wedi’u cael mewn gwirionedd dros y nifer o flynyddoedd diwethaf: sut y maent yn cynyddu a lle y gallent gynyddu, a beth yw’r heriau i’r swyddogion gorfodi a’r materion sy’n codi yn hynny o beth o ran yr offer sydd ei angen arnynt, eu diogelwch eu hunain ac yn y blaen mewn rhai amgylchiadau—mae hynny’n rhywbeth roeddwn yn ymwybodol iawn ohono pan euthum i weld rhai o swyddogion diogelu’r amgylchedd yng ngorllewin Cymru, lle roeddent yn sôn am bethau fel yr angen am gamerâu corff ac yn y blaen, a fyddai o gymorth sylweddol ac rwy’n deall bod hynny’n cael ei weithredu bellach.
Felly, mae’r rhain oll yn cael eu hadolygu. Mae’n rhywbeth rwyf wedi bod yn canolbwyntio fy sylw arno, gan gadw’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod mewn cof. Fy mwriad maes o law yw cofnodi datganiadau pellach ar nifer yr erlyniadau, lle maent yn digwydd, er mwyn sicrhau’r tryloywder mwyaf posibl.
A gaf fi groesawu’r datganiad gan Gwnsler Cyffredinol Cymru, a chroesawu hefyd y cyfeiriad teithio cyffredinol, fel petai, o ran datblygu codau erlyn Llywodraeth Cymru, ac mae’r ymgynghoriad hwn yn bendant i’w groesawu’n fawr? Ac fel y soniodd David Melding eisoes, rydym yn sôn am faterion difrifol yma o ran lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd a physgodfeydd, rheolau a chyfreithiau y mae angen bod o ddifrif yn eu cylch.
Felly, mae un neu ddau o gwestiynau a materion yn codi. Mae gennym nifer yr erlyniadau llwyddiannus yno. Roeddwn yn meddwl tybed faint o erlyniadau a gafodd eu hystyried, ond na chawsant eu dwyn gerbron—mewn geiriau eraill, faint na chafodd eu cynnwys yn y ffigurau hynny? Mewn geiriau eraill, pa mor realistig yw’r gobaith y bydd erlyniad yn deillio o ganlyniad i droseddu o ran—? Felly, mae gennym 38 o erlyniadau llwyddiannus, ond a oes gennym syniad faint yn union o droseddu posibl a oedd yn digwydd mewn gwirionedd yn y meysydd hyn?
Yn dilyn ymlaen o hynny, a allai Cwnsler Cyffredinol Cymru gadarnhau bod gennym yr arfau cyfreithiol at ddefnydd Cymru ar hyn o bryd i roi’r deddfau Cymreig mewn grym?
A’r trydydd pwynt, yn amlwg, yw nad yw plismona a’r llysoedd wedi’u datganoli i Gymru, ac mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi sôn am hynny wrth basio o ran y pwynt cyffredinol am godau Gwasanaeth Erlyn y Goron y DU. Gan gadw mewn cof nad yw plismona a gorfodi wedi’u datganoli, a’n bod, mewn gwirionedd, yn colli rhai o’r materion gorfodi gyda’r Ddeddf Cymru newydd, os felly, a oes perygl y bydd codau Llywodraeth y DU yn disodli cod erlyn Llywodraeth Cymru yn ymarferol? Rwy’n chwilio am sicrwydd yn hyn o beth, mewn gwirionedd. Ac o ran—wel, nid dadl athronyddol mewn gwirionedd, ond o ran y penderfyniadau hollbwysig sy’n digwydd mewn gwirionedd, rwy’n siarad am y rhyngwyneb rhwng y codau erlyn hyn a materion yn ymwneud â’r Bil diddymu mawr, er enghraifft, o ran y pwerau datganoledig sydd gennym mewn amaethyddiaeth a physgodfeydd, sydd yn y lle hwn yn awr, rydym yn wynebu eu colli oni bai, wrth gwrs, fod cymeradwyaeth gyffredinol i’r Bil parhad a basiwyd gan y Cynulliad hwn er mwyn sicrhau nad ydym yn colli pwerau Ewropeaidd yn y meysydd datganoledig sydd gennym yn awr. Felly, rwy’n chwilio am sicrwydd pellach gan y Cwnsler Cyffredinol, mewn gwirionedd, fod y rhyngwyneb yn rhywbeth rydym yn cadw llygad arno ac yn amlwg, fod y pwerau sydd gennym yn awr yn cael eu cadw yn ein dwylo ni. Diolch.
Diolch. Unwaith eto, rydych yn nodi nifer o achosion pwysig. Ar hyn o bryd, mae’r penderfyniadau erlyn yn cael eu gwneud gennyf i, felly bydd y dystiolaeth ger fy mron i. Lle mae yna feysydd arbenigol, ceir dadansoddiad gan asiantau a chyfreithwyr sy’n arbenigwyr yn y meysydd hynny, ac yna fy mhenderfyniad i yn y pen draw fydd a yw’r erlyniad yn digwydd ai peidio. Rydych yn nodi pwynt pwysig o ran faint o achosion a geir lle na wnaed penderfyniadau yn eu cylch. Nid yw’n faes y mae gennyf ddigon o wybodaeth amdano, ond mae’n faes pwysig. Rwy’n credu mai ein sefyllfa ar hyn o bryd yw bod nifer yr erlyniadau yn gymharol fach, a lle y gwnaed penderfyniad, rwy’n meddwl bod y gyfradd lwyddiant wedi bod yn hynod o uchel. Mae’n un o’r pethau roeddwn am edrych arno.
Y pwynt a nodir gennych, ac un pwysig iawn, wrth gwrs, yw’r sefyllfa sy’n newid ym maes awdurdodaeth gyfreithiol sy’n cydgysylltu mewn rhyw ffordd. Ac wrth gwrs, rydym am wneud yn siŵr pan fyddwn yn pasio cyfreithiau fod yna gapasiti i ymchwilio’n iawn ac i orfodi’r cyfreithiau’n briodol, fel arall ni fydd fawr o statws nac o werth i’r cyfreithiau hynny. Ar hyn o bryd, rwy’n hyderus fod hynny’n wir. Un o’r rhesymau dros gyflwyno’r datganiad a’r cod hwn gerbron y Cynulliad mewn gwirionedd yw er mwyn rhoi gwybod i’r Aelodau am yr hyn sy’n digwydd yn y maes—beth a wnawn gyda’r pwerau erlyn sydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd, neu sydd gan y Cwnsler Cyffredinol, a sut y cânt eu defnyddio, a’u gwneud yn fwy tryloyw ac yn fwy atebol, rwy’n meddwl, o ran yr hyn rydym yn ei wneud mewn gwirionedd. Felly, rwy’n rhagweld mwy o wybodaeth am hyn dros gyfnod o amser. Wrth gwrs, bydd yr Aelod yn gwybod, wrth i ni basio mwy o ddeddfau, ein bod mewn gwirionedd yn cynyddu’r meysydd penodol hynny.
Rwy’n fodlon fod gennym yr arfau cyfreithiol hynny ac rwy’n fodlon fod gennym y sgiliau. Un o’r pethau cyntaf y deuthum yn gyfarwydd ag ef ac y deuthum yn arbenigwr arno oedd rheoliadau treillio am gregyn bylchog 2012 a sawl deddfwriaeth arall debyg sydd gennym, sy’n swnio’n ddoniol ar yr wyneb mewn ffordd, ond sy’n hynod o bwysig ac yn ymwneud â gweithgareddau troseddol eithaf difrifol. Felly, mae’r erlyniadau sydd wedi digwydd wedi bod yn bwysig iawn. Ac mae rhai ohonynt, o ran diogelu bwyd—rwy’n credu bod un yr adroddais yn ei gylch wedi arwain at un unigolyn yn cael dirwy o ychydig dan £3,000, unigolyn arall yn cael 18 mis o garchar gohiriedig, a chamau gweithredu, o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002, i adfer dros £0.25 miliwn. Felly, mae’r rhain yn feysydd difrifol iawn.
Mae yna bwynt pwysig hefyd ynglŷn â’r ffaith ein bod yn cysylltu â’r heddlu—fod y swyddogion gorfodi, lle bo’n briodol, yn cael y lefel honno o ymgysylltiad. Mae hynny hefyd yn bwysig iawn oherwydd bod croesi rhwng rhai o’r troseddau sy’n digwydd mewn perthynas â deddfau Cymru, a meysydd eraill o weithgaredd troseddol hefyd. Felly, mae hynny’n rhywbeth sy’n bwysig.
A wyf fi’n poeni ynglŷn â chymhwyso cod y DU yn hytrach na’n cod ni? Wel, nac ydw. Yr unig god y byddaf yn ei gymhwyso yn y pen draw yw cod erlyn Cymru. Yn amlwg rwy’n gweithio yn yr amgylchedd sy’n bodoli ar hyn o bryd, ond wrth gwrs, unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben a phan fydd cod wedi’i gwblhau ar ôl ystyried yr holl sylwadau hynny, dyna fydd y cod y byddaf yn ei gymhwyso mewn gwirionedd ac y byddaf yn cael fy nwyn i gyfrif mewn perthynas ag ef.
O ran Brexit, colli pwerau—wel, wrth gwrs, safbwynt Llywodraeth Cymru yw gwrthwynebu unrhyw leihad yn y pwerau penodol hynny. Rwy’n sefyll yn gadarn dros hynny. Byddwn yn monitro’n agos iawn yr holl faterion sy’n codi mewn perthynas â Brexit ac unrhyw oblygiadau a fydd yn deillio o hynny. Ar y cam hwn, mae’n rhy gynnar i fod yn fwy manwl na hynny yn ei gylch—dim ond ei fod yn bwynt dilys iawn ac yn un rwy’n edrych arno’n ofalus iawn.
Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol.