1. Datganiad ar yr Ymosodiad gan Derfysgwyr yn Llundain

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 6 Mehefin 2017

Yn gyntaf heddiw, fy nyletswydd drist, fel ag yr oedd yr adeg hon bythefnos yn ôl, yw estyn fy nghydymdeimlad ar ran Aelodau’r Cynulliad i’r rheini sydd wedi eu heffeithio gan ymosodiad terfysgol arall, y tro hwn yn Llundain, a Llundain oedd canolbwynt yr ymosodiad. Unwaith eto, roedd y weithred yn un llwfr ac yn un ciaidd. Rwyf yn gwahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad.