Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 6 Mehefin 2017.
Nid yw'r bwrdd iechyd yn barod i gael ei symud allan o fesurau arbennig eto. Gallaf ddweud, er enghraifft, bod y bwrdd iechyd fwy neu lai wedi dileu amseroedd aros diagnostig dros 8 wythnos, ac roedd mis Mawrth 2017 94 y cant yn is na mis Mawrth 2016. Dyma’r isaf y mae’r bwrdd iechyd wedi bod ers cyflwyno’r safon ym mis Ebrill 2010. Mae perfformiad o ran canser yn y bwrdd iechyd ymhlith y gorau yng Nghymru yn gyson. 92.5 y cant yw ffigurau perfformiad mis Mawrth ar gyfer y targed 62 diwrnod, y perfformiad gorau ers mis Ionawr 2016, a 98.6 y cant ar gyfer y targed 31 diwrnod. Gallaf ddweud bod PBC wedi gwella'n sylweddol canran yr atgyfeiriadau CAMHS a welir o fewn 28 diwrnod o 18 y cant ym mis Ebrill 2016 i 89 y cant ym mis Mawrth 2017. Gostyngodd nifer yr achosion oedi wrth drosglwyddo gofal yn Betsi Cadwaladr eto ym mis Ebrill i 90, bu gostyngiadau ym mhump o’r chwe mis ers mis Hydref 2016, ac mae'r ffigur hwnnw 41 y cant yn is ym mis Hydref, a 40 y cant yn well na'r un cyfnod y llynedd.
Mae hynny’n llwyddiant go iawn, dim ond i roi rhai enghreifftiau i chi, o ystyried pwysau’r gaeaf a chynnydd o flwyddyn i flwyddyn i’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Os oes un peth y gallaf ei ddweud: fel yr wyf wedi siarad â phobl ar garreg y drws ledled gogledd Cymru gyfan, y peth olaf maen nhw ei eisiau yw’r Torïaid wrth y llyw a Jeremy Hunt wrth y llyw.