<p>Y Gwasanaeth Iechyd </p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:07, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, cyhoeddwyd adroddiad Naylor fis neu ddau yn ôl, ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflwr enbyd gallu ystadau'r GIG yn Lloegr. Mae Theresa May wedi nodi y bydd yn cyflawni argymhellion yr adroddiad, sy'n cynnwys gwerthu sawl rhan o ystâd y GIG yn Lloegr yn rhan o broses gan gynnwys cytundeb dau am un, prynu un a chael un arall am ddim, os hoffwch, i demtio cwmnïau preifat.

A allwch chi fy sicrhau, Prif Weinidog, y byddwn ni yma yng Nghymru yn cynnal statws eiddo cyhoeddus ein hystâd GIG, a pheidio â dilyn y llwybr a gynigir gan y Torïaid o werthu’r ystâd i guddio eu tanariannu llethol o’r GIG yn Lloegr?