Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 6 Mehefin 2017.
Wel, rydym ni’n gweld yn Lloegr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn cynyddu, rydym ni’n gweld amseroedd aros yn cynyddu, rydym ni’n gweld poblogrwydd mawr Jeremy Hunt, wrth gwrs, fel yr Ysgrifennydd Gwladol—mae pobl wedi heidio ato yn y strydoedd, rydym ni’n gwybod hynny. Gwelsom streic y meddygon a gynhaliwyd yn Lloegr. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau o gwbl i ddilyn yr hyn a awgrymir yn Lloegr, sef gwerthu darnau mawr o’r GIG i lenwi bwlch yn y cyllid y mae'r Torïaid eu hunain wedi ei greu.