Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Mehefin 2017.
Diolch, Prif Weinidog. Amcangyfrifir bod 45,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia. Os bydd y duedd bresennol yn parhau, bydd nifer y bobl sy'n byw gyda’r clefyd yn cynyddu dros 40 y cant dros y 12 mlynedd nesaf. Mae codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r clefyd yn hanfodol. Roeddwn i’n falch o gyflwyno i orsafoedd Casnewydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu logo Dementia Friends, ac rwy'n arbennig o falch bod ysgol uwchradd St Joseph’s yn fy etholaeth i wedi cael ei henwi’n ysgol uwchradd ystyriol o ddementia gyntaf Cymru. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch ysgol St Joseph’s a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac edrych sut y gall Llywodraeth Cymru weithio'n agos gydag eraill i hyrwyddo’r hyfforddiant am ddim hwn, yn enwedig ymhlith ein pobl ifanc?