Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 6 Mehefin 2017.
Rwy’n croesawu'n fawr yr enghraifft a roddwyd yno. Rydym ni yn gweithio gyda sefydliadau eraill, wrth gwrs, fel Cymdeithas Alzheimer ac eraill, i gynnal momentwm ymgyrchoedd Dementia Friends a Chymunedau Cefnogol i Ddementia fel bod mwy a mwy o bobl yn deall sut beth yw byw gyda dementia, yn ogystal â gallu adnabod ei symptomau. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, gwneud yn siŵr ein bod ni’n edrych sut y gallwn ni wneud mwy o adeiladau ac amgylcheddau yn ystyriol o ddementia, i alluogi pobl i fyw bywyd mor normal ag y gallant cyhyd ag y gallant.