<p>Dementia</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 6 Mehefin 2017

Rydym ni yn ystyried, wrth gwrs, unrhyw adroddiad newydd sydd yn dangos ym mha ffordd y gallwn ni wella gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig. Ond, ar draws Cymru, wrth gwrs, rydym ni wedi cyllido pecyn gwybodaeth ynglŷn â byw gyda dementia ac mae hwnnw wedi cael ei groesawu gan bobl proffesiynol sydd yn gweithio yn y maes, pobl â dementia, eu teuluoedd nhw a hefyd y rheini sydd yn gofalu amdanyn nhw. Mae yna linell cymorth bob dydd, trwy’r flwyddyn ar gael—24/7—sydd yn gallu rhoi cymorth emosiynol i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia a hefyd y rheini sydd yn gofalu amdanyn nhw. Mae’r rheini jest yn ddwy enghraifft o’r ffyrdd rydym ni wedi sicrhau bod yna fwy o gymorth ar gael, nid dim ond i’r rheini sydd yn dioddef o ddementia ond y rheini sydd yn gofalu amdanyn nhw hefyd.