Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 6 Mehefin 2017.
Brif Weinidog, mae astudiaeth blwyddyn o hyd gan Ymddiriedolaeth Addysgol Seale-Hayne a’r Rhwydwaith Cymunedol Ffermio wedi nodi nifer o bryderon ynglŷn ag effaith dementia yng nghefn gwlad y mae’n rhaid mynd i’r afael â nhw, yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig, yn ogystal â’r anhawster o gael gafael ar wasanaethau cymorth. Felly, yn sgil y pryderon hyn, pa waith ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’r rheini sy’n byw mewn cymunedau mwy anghysbell a mwy gwledig? Ac a allwch chi hefyd ddweud wrthym ni un mesur penodol mae’ch Llywodraeth chi wedi ei gyflwyno yn y 12 mis diwethaf i helpu pobl mewn cymunedau gwledig sy’n dioddef o dementia?