Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 7 Mehefin 2017.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn wir, rwyf wedi gweld y wybodaeth a ddarparwyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, a hyd y gwelaf, mae’r wybodaeth honno’n dangos yn glir fod yr holl benderfyniadau a arweiniodd at y wybodaeth sy’n gyhoeddus wedi’u gwneud yn unol â gweithdrefnau democrataidd y cyngor ei hun. Fodd bynnag, mae’r Papur Gwyn, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’ yn cynnwys argymhelliad ar gyfer gosod dyletswydd gyfreithiol newydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori â phartneriaid a’r cyhoedd wrth bennu cyllidebau ac i wneud hynny bob blwyddyn, ac nid oes amheuaeth y byddai peth o’r wybodaeth sy’n gyhoeddus ar hyn o bryd wedi bod yn gyhoeddus ynghynt pe bai’r weithdrefn honno wedi bod ar waith.