Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 7 Mehefin 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r newidiadau rydych yn eu cynnig yw cyd-fyrddau, sy’n debyg iawn, yn fy marn i, i’r rhai tân ac achub, ar hyn o bryd. A ydych yn cydnabod manteision cael cyd-fyrddau ac a ydych yn credu bod cryn fantais i’w chael o gynnwys cymaint o aelodau o’r awdurdod lleol â phosibl ar y cyd-fyrddau hyn er mwyn iddynt allu adrodd yn ôl, nid yn unig i’w cyngor eu hunain, ond sicrhau y gallant adrodd yn ôl i’w hetholwyr eu hunain gan mai iddynt hwy, yn y pen draw, y maent hwythau, a ninnau, yn atebol bob amser?