1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2017.
1. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd yn achos unrhyw ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol? OAQ(5)0131(FLG)
Llywydd, mae’r Papur Gwyn, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’, yn cynnwys nifer o gynigion i sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd mewn llywodraeth leol. Mae ymatebion yr ymgynghoriad i hyn ac agweddau eraill ar y Papur Gwyn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel y gwyddoch, bellach yn bwriadu symud i mewn i adeiladau newydd sbon, o’r radd flaenaf, gyda chost amcangyfrifedig wreiddiol o £35 miliwn, ond wrth gwrs, roedd hynny o dan y weinyddiaeth flaenorol. Fodd bynnag, mae datgeliadau rhyddid gwybodaeth bellach yn dangos bod y gost hon wedi codi o £35 miliwn i £58 miliwn a bod posibilrwydd y gallai godi ymhellach. Ac nid yw hynny’n cynnwys y cyfrifon terfynol a’r ffioedd cynnal a chadw cysylltiedig. Mae’r cytundeb hwn yn ei hanfod yn fenter cyllid preifat o dan enw arall. Yn flaenorol, o dan y broses o ddiwygio llywodraeth leol, gwnaeth y Gweinidog hi’n gwbl glir na ddylid cael gwariant cyfalaf o’r math hwn. O ystyried hynny’n awr, ond wrth symud ymlaen, sut y byddwch yn sicrhau, yn eich deddfwriaeth arfaethedig sydd gennych ar y gweill ar gyfer diwygio llywodraeth leol, nad yw awdurdodau lleol yn ymrwymo i gontractau o’r math hwn a fydd, yn y pen draw, yn creu costau enfawr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn wir, ar gyfer y rhai sy’n talu’r dreth gyngor?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn wir, rwyf wedi gweld y wybodaeth a ddarparwyd drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth, a hyd y gwelaf, mae’r wybodaeth honno’n dangos yn glir fod yr holl benderfyniadau a arweiniodd at y wybodaeth sy’n gyhoeddus wedi’u gwneud yn unol â gweithdrefnau democrataidd y cyngor ei hun. Fodd bynnag, mae’r Papur Gwyn, ‘Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad’ yn cynnwys argymhelliad ar gyfer gosod dyletswydd gyfreithiol newydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori â phartneriaid a’r cyhoedd wrth bennu cyllidebau ac i wneud hynny bob blwyddyn, ac nid oes amheuaeth y byddai peth o’r wybodaeth sy’n gyhoeddus ar hyn o bryd wedi bod yn gyhoeddus ynghynt pe bai’r weithdrefn honno wedi bod ar waith.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r newidiadau rydych yn eu cynnig yw cyd-fyrddau, sy’n debyg iawn, yn fy marn i, i’r rhai tân ac achub, ar hyn o bryd. A ydych yn cydnabod manteision cael cyd-fyrddau ac a ydych yn credu bod cryn fantais i’w chael o gynnwys cymaint o aelodau o’r awdurdod lleol â phosibl ar y cyd-fyrddau hyn er mwyn iddynt allu adrodd yn ôl, nid yn unig i’w cyngor eu hunain, ond sicrhau y gallant adrodd yn ôl i’w hetholwyr eu hunain gan mai iddynt hwy, yn y pen draw, y maent hwythau, a ninnau, yn atebol bob amser?
Wel, diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Mae’n llygad ei le fod y Papur Gwyn yn argymell trefniadau rhanbarthol newydd a roddir ar waith drwy’r hyn y geilw’r Papur Gwyn yn ‘bwyllgorau cydlywodraethu’. Y model hwnnw yw’r un mwyaf cyfarwydd i lywodraeth leol. Yn y ffordd honno y caiff trefniadau gwasanaethau trawsffiniol eu rhoi ar waith gan amlaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Maent yn pwyso ar fodelau eraill, megis awdurdodau heddlu yn y gorffennol, lle’r oedd cynghorwyr o wahanol gynghorau sir cyfansoddol—roeddwn i’n un, mae’n ddigon posibl ei fod yntau wedi bod yn un—yn cael eu hanfon i gynrychioli ein cynghorau sir ar gyd-fwrdd ac yna’n cael ein gwneud yn atebol i’r awdurdodau lleol y daethom ohonynt. Felly, mae’n iawn i ddweud bod cryn dipyn o hanes o wneud pethau yn y ffordd hon yng Nghymru, a’r allwedd i’w gwneud yw sicrhau bod y bobl sy’n eistedd ar y byrddau hyn yn gallu bod yn gwbl atebol yn uniongyrchol am y penderfyniadau a wnânt i’w hawdurdodau lleol ac i’r poblogaethau sydd wedi eu hethol.