1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 7 Mehefin 2017.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i'r portffolio economi a'r seilwaith mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd? OAQ(5)0140(FLG)
Bydd y portffolio economi a’r seilwaith yn buddsoddi dros £700 miliwn dros bedair blynedd yn y seilwaith trafnidiaeth newydd, a bydd y cynlluniau hynny’n ystyried diogelwch ar y ffyrdd. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £11.6 miliwn yn benodol ar gyfer mentrau diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru.
Diolch am hynny. Ymddengys fod problem yn datblygu gyda staff lolipop ysgolion, neu gynorthwywyr croesi ffordd fel y’u gelwir weithiau, gan fod y nifer wedi gostwng 23 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol ar hyn o bryd ar gynghorau i gadw’r cynorthwywyr croesi ffordd, ond wrth gwrs, maent yn angenrheidiol er mwyn cadw’r syniad o lwybrau diogel a byddant yn cynorthwyo gyda thargedau cerdded i’r ysgol a theithio llesol. Felly, tybed a ellid gwneud unrhyw beth i ddiogelu rôl y cynorthwywyr croesi ffordd.
Wel, a gaf fi gytuno â’r Aelod fod y gwaith a wneir gan staff croesi ffordd yng Nghymru yn bwysig iawn? Mae’r rhesymau dros y gostyngiad yn nifer y staff yn fwy cymhleth nag yr ymddangosant ar yr olwg gyntaf mewn gwirionedd. Mae’n wir fod cynghorau mewn gwahanol rannau o Gymru wedi manteisio ar y cyfle, wrth i staff ymddeol, i adolygu a oes angen penodi rhywun arall. Ond mae’r broblem ehangach yn ymwneud mewn gwirionedd â recriwtio pobl i wneud y swydd hon. Mae’n eithaf brawychus darllen weithiau, Llywydd, am brofiadau staff croesi ffordd a’r gamdriniaeth y maent yn ei dioddef gan fodurwyr wrth iddynt gyflawni eu gwaith, ac ni fu’n hawdd recriwtio pobl i swyddi gwag. Mewn rhai rhannau o Gymru, mae’r broblem wedi’i datrys yn rhannol wrth i’r ysgolion eu hunain gymryd mwy o ddiddordeb yn y gwaith o lenwi’r swyddi, ac wrth i gynghorau tref a chymuned fod yn barod i gynorthwyo gyda hynny hefyd. Felly, rhoddir cynnig ar rai atebion. Mae’r mater y cyfeiria’r Aelod ato yn un dilys.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer yng Nghymru, roedd 6.6 y cant o’r holl rai a anafwyd mewn damweiniau traffig ar y ffordd yn feicwyr. Gwelwyd gostyngiad bychan ers y flwyddyn flaenorol, ond serch hynny, hwn yw’r ffigur uchaf ond un a gofnodwyd ers 1984. A ydych yn cytuno â mi fod yn rhaid i gynghorau, a Llywodraeth Cymru yn wir, wrth ddyrannu ei chyllideb, fod o ddifrif ynglŷn â llwybrau beicio diogel, a bod angen inni eu dynodi, nid drwy beintio llinell ar hyd y ffordd ger y palmant, ond drwy fod o ddifrif ynglŷn â sicrhau bod gennym lwybrau ar gyfer beicio yn unig i gyrchfannau allweddol, yn enwedig yn ein hardaloedd trefol?
Llywydd, y grwpiau mwyaf agored i niwed o ran defnyddwyr ffyrdd yw cerddwyr, beicwyr a beicwyr modur, ac rydym wedi siarad cryn dipyn yma yn y Siambr am feicwyr modur a chamau y gellir eu cymryd i geisio sicrhau bod y ffyrdd yn fwy diogel ar eu cyfer. Y darlun mawr, fel y gŵyr yr Aelod, yw bod marwolaethau mewn damweiniau ar y ffyrdd yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o 30 mlynedd. Mae’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan ddefnyddio’r £11.6 miliwn yn benodol ar gyfer mesurau diogelwch ar y ffyrdd, yn cynnwys camau gweithredu i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda’r gwaith y gallant ei wneud i ddiogelu beicwyr ar eu ffyrdd, ac rwy’n siŵr y byddant yn ymwybodol o’r pwyntiau a wnaeth yr Aelod y prynhawn yma.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.