Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 7 Mehefin 2017.
Iawn, mi wnaf fy ngorau glas. Diolch i chi am ildio. Mewn ymateb i’r pwynt ynglŷn â’r methiant i adeiladu tai’n organig dros y blynyddoedd fel bod angen adeiladu gormod ohonynt bellach, a fyddech yn derbyn mai methiant Llywodraethau Ceidwadol yn yr 1980au i adeiladu tai yn lle’r tai a werthwyd i denantiaid cyngor, yn ddigon cywir, ond yna ni chafodd tai amgen eu hadeiladu i wneud iawn am hynny?