Part of the debate – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 7 Mehefin 2017.
A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r cynnig hwn, gan fod tai fforddiadwy yn gyffredinol, yn ddi-os, a mynd i’r afael â digartrefedd yn benodol, ymhlith y materion mwyaf, rwy’n credu, sy’n wynebu ein gwlad heddiw? Er bod y cynnig yn ymwneud yn bennaf ag adeiladu tai, hoffwn ehangu fy nghyfraniad i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n achosi digartrefedd a ffyrdd posibl o fynd i’r afael â’r broblem honno, ac mae adeiladu tai fforddiadwy yn un ohonynt.
O fewn hynny, fel eraill, rwy’n sicr yn croesawu’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, ymrwymiad y gwn ei fod yn parhau’n gadarn. Cyferbynnwch hynny, os mynnwch, â’r Torïaid yn Lloegr. Eu haddewid blaenllaw ar adeg lansio eu maniffesto oedd y byddent yn adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cymdeithasol, ond o fewn wythnosau, buom yn dyst i dro pedol gwan a sigledig arall gan Theresa May, gyda’i Gweinidog tai yn cyfaddef y byddai’r tai a gynlluniwyd o fath a fyddai gryn dipyn yn llai fforddiadwy mewn gwirionedd. Eironig, felly, o safbwynt y cynnig hwn. Wel, o bosibl. Ond nid dyna’r eironi go iawn o’m rhan i. Pan fyddwn yn clywed Aelodau Ceidwadol yn siarad yn y Siambr hon am dai ac am broblemau digartrefedd, rwy’n meddwl tybed pryd y byddant yn magu’r gonestrwydd i gydnabod bod mesurau caledi eu Llywodraeth hwy yn San Steffan yn ffactor allweddol sy’n gwaethygu problemau digartrefedd yng Nghymru ac ar draws y DU gyfan, fel effeithiau polisi hawl i brynu Llywodraeth Thatcher y cyfeiriodd Lee Waters ato, gyda llaw, polisi a anrheithiodd y stoc dai cymdeithasol ar draws y DU gyfan, ac nid ydym, 30 mlynedd yn ôl neu beidio, wedi dod dros hynny hyd heddiw. Mae’r mesurau caledi y cyfeiriais atynt yn cynnwys y dreth ystafell wely ddichellgar, gyda’r effaith ddinistriol ar lawer o deuluoedd incwm isel. Ac os caiff y Torïaid eu hailethol yfory, byddwn yn gweld capiau ar lwfansau tai lleol a fydd yn niweidio pobl o dan 35 oed yn arbennig.
Llywydd, bythefnos yn ôl yn unig, ymunodd pawb yn y Siambr hon â mi i gondemnio arfer gwarthus landlordiaid sy’n cynnig eiddo’n ddi-rent neu am bris isel yn gyfnewid am ffafrau rhywiol, ond polisïau Torïaidd yn San Steffan sy’n creu amgylchedd i hyn allu ffynnu. Yng Nghymru, ar hyn o bryd, mae bron i 0.25 miliwn o bobl yn hawlio budd-daliadau tai, ac mae 100,000 ohonynt yn denantiaid cymdeithasau tai. I’r rhai sydd â’r angen mwyaf, mae bron yn sicr na fydd y lefel bresennol o fudd-daliadau yn talu am gost rhenti a thaliadau gwasanaeth, gan roi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas mewn perygl o fod yn ddigartref. Felly, byddai 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yma yng Nghymru yn ddatblygiad arwyddocaol, a byddai Llywodraeth Lafur yn San Steffan ar ôl yfory, a fyddai’n gwrthdroi toriadau budd-daliadau’r Torïaid, yn helpu’r rhai sy’n wynebu’r posibilrwydd o fod yn ddigartref.
Ond mae angen i ni hefyd fynd i’r afael â’r hyn y gallwn ei wneud i helpu’r rhai sydd eisoes yn ddigartref. Fel y soniais o’r blaen, treuliais rywfaint o amser dros y gaeaf yn helpu yn y lloches nos ym Merthyr Tudful, a deuthum yn ymwybodol iawn yn sgil hynny o’r cylch o anobaith y gall pobl ddigartref ddisgyn iddo yn aml. Heb unrhyw gyfeiriad sefydlog, mae’n anodd iawn dod o hyd i waith, a hyd yn oed i’r rhai sy’n gallu dod o hyd i waith ac yn gallu rhoi digon o’r neilltu i rentu eiddo, mae’r ffaith eu bod yn ddigartref yn golygu bod llawer o ddarpar landlordiaid yn amharod i dderbyn taliadau bond ganddynt ac yn gyffredinol ni allant ddarparu gwarantwr ar gyfer eu tenantiaeth. Un ateb i’r broblem benodol hon, o bosibl, fyddai gwneud mwy o ddefnydd o’r Llywodraeth neu’r awdurdod lleol i weithredu fel gwarantwr dewis olaf ar gyfer tenantiaethau o’r fath—cynllun y gwn ei fod wedi gweithredu’n llwyddiannus mewn rhai rhannau o’r wlad. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ategu fy nghanmoliaeth yn ddiweddar i fenter Cartrefi Cymoedd Merthyr sy’n treialu’r defnydd o gynwysyddion llongau i’w troi’n llety dros dro: rhywbeth y gallai ardaloedd awdurdodau lleol eraill edrych arno hefyd o bosibl.
Ac yna, wrth gwrs, ceir enghreifftiau o wledydd eraill—cyffyrddodd David Melding ar hyn—o ddulliau arloesol i fynd i’r afael â phrinder tai y dylem edrych arnynt a’u hystyried o ddifrif. Yn Ffrainc, mae dull IGLOO, ac rwy’n eich sicrhau nad yw hynny’n ymwneud ag adeiladu tai o iâ. Dyna fenter a ddatblygwyd gan gynrychiolwyr ffederasiynau tai cymdeithasol, grwpiau integreiddio cymdeithasol ac undebau llafur, gan edrych yn benodol ar ddarparu tai ar gyfer teuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd wedi’u hallgáu. Yn y Ffindir, enghraifft brin o wlad Ewropeaidd lle mae lefelau digartrefedd wedi gostwng, ceir cynllun ‘tai yn gyntaf’, sef model grisiau sy’n cefnogi’r broses o drosglwyddo pobl oddi ar y stryd i loches nos, i hostel, i unedau tai trosiannol ac yna i’w llety annibynnol eu hunain.
Felly, i gloi, dirprwy Lywydd, gadewch i ni gael y trafodaethau am yr angen am dai fforddiadwy newydd wrth gwrs, ond yn hytrach na chael ein llethu gan fethodoleg cyfrifo’r niferoedd sydd eu hangen, gadewch i ni hefyd ymrwymo i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol ein problemau tai.