Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 7 Mehefin 2017.
Rwy’n credu fy mod wedi cymryd un cyfraniad. Pedair munud yn unig sydd gennym i siarad, felly, yn anffodus, er y byddwn yn hoffi ildio, nid wyf yn meddwl y gallaf.
Yn amlwg, rwy’n derbyn pwynt 3 o gynnig Plaid Cymru. Credaf yn gryf y dylai Llywodraeth y DU addo cynnal pob ceiniog o’r hyn y mae Brwsel ar hyn o bryd yn ei wario yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sydd â buddiannau’r Gymru wledig yn agos at eu calonnau yn anghytuno â hynny. Ac wrth gwrs, pwy sydd eisiau cytundeb masnach anghyfrifol gydag unrhyw un—fel ym mhwynt 2 y cynnig hwn? Wrth gwrs, rydym am negodi’r cytundeb gorau posibl, nid yn unig gyda’r UE, ond hefyd y gwledydd eraill o amgylch y byd—150, 160 o wledydd, faint bynnag y bydd—sy’n ffurfio 85 y cant o’r economi fyd-eang. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn bwysig iawn i ni, wrth gwrs, gan mai hwy yw ein cymdogion daearyddol agosaf. Ac fel y nododd Simon Thomas yn gywir yn ei araith agoriadol, mae gennym raddau sylweddol iawn o fasnach rhyngom sydd o fudd i’r ddwy ochr, wrth gwrs, ond gadewch i ni beidio ag anghofio—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf, ni allaf ildio fwy nag unwaith yn y cyfnod byr sydd gennyf, gan ei bod yn bwysig iawn fy mod yn gwneud fy mhwyntiau yn hytrach na chaniatáu i Aelodau eraill wneud eu rhai hwy yn ystod fy araith.
Ym mhob sector unigol o fasnach mewn cig, mae’r Deyrnas Unedig mewn diffyg, a diffyg sylweddol iawn mewn rhai achosion. Felly, ceir posibilrwydd enfawr—os yw’r UE mor ffôl fel nad ydynt yn awyddus i ddod i gytundeb masnach rydd â’r Deyrnas Unedig, mae’n fwy na thebyg y byddwn yn gallu amnewid yr hyn sy’n cael ei fewnforio ar hyn o bryd am gynnyrch a gynhyrchir gartref. Gadewch inni edrych ar y ffigurau: mewn cig eidion a chig llo, rydym yn mewnforio gwerth £700 miliwn o gig y flwyddyn, nid ydym ond yn allforio gwerth £150 miliwn; yn achos porc, rydym yn mewnforio gwerth £780 miliwn—mae’n ddrwg gennyf, ffigurau ar gyfer 2007 yw’r rhain. Mae’n ddrwg gennyf, fe ddechreuaf eto. Ar gyfer cig eidion a chig llo, eleni ceir gwerth dros £1 biliwn o fewnforion cig eidion, ac rydym yn allforio gwerth £369 miliwn. Ar gyfer porc, rydym yn mewnforio gwerth £778 miliwn o gig; gwerth £252 miliwn yn unig a allforiwn. Ar gyfer cig oen, dyma’r unig—cig oen a chig dafad yw’r unig sector lle y ceir cydbwysedd bras. Ac wrth gwrs, gyda chig oen, mae yna bosibilrwydd o broblem os nad awn i’r afael â hi, oherwydd, fel y nododd Simon Thomas yn gywir, daw cyfran sylweddol iawn o’n mewnforion o Seland Newydd.
Felly, wrth gwrs mae’n rhaid i ni wylio rhag problemau posibl a fydd yn deillio o ganlyniad i’r cynnwrf enfawr sy’n anochel mewn newid o’r math hwn. Cawsom y cynnwrf y ffordd arall oddeutu 40 mlynedd yn ôl, ac fe’i cofiaf yn dda iawn, pan symudasom oddi wrth gynllun taliadau diffyg i ffurf gwbl wahanol ar gymorth. Mae’r rhain yn broblemau ymarferol y gellir eu datrys.
Ond mae’r ffigurau, wrth gwrs, yn fach iawn. Dyma sy’n rhaid inni ei gofio. Eleni, mae Llywodraeth Prydain yn mynd i wario £800 miliwn. Nid yw cyfanswm gwerth y sector amaethyddol cyfan yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw yn £10 biliwn hyd yn oed. Felly, mae’r rhain yn ffigurau y gellir yn hawdd eu cynnwys yng nghyllideb y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid i ni frwydro dros Gymru, fel y dywedodd Simon Thomas yn gywir iawn, a dyna a wnawn, ond mae’r syniad fod Llywodraeth y DU yn mynd i dalu’r sylw lleiaf i lond llaw o Aelodau Plaid Cymru yn hurt. UKIP yn unig sydd wedi gallu troi’r Llywodraeth ar ei phen, oherwydd hebom, ni fyddai refferendwm wedi bod yn y lle cyntaf ac ni fyddem yn gadael yr UE yn awr.