<p>Twristiaeth Glan y Môr yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 13 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, yn gyntaf oll, o ran adroddiad y pwyllgor, nid dyna’n union y mae'n ei ddweud, yn fy marn i. Mae'n gwneud y pwynt eithaf dilys bod llawer o wahanol sefydliadau sydd i gyd â chyfrifoldeb am lifogydd—tua saith ohonynt. Y pwynt yr oedd yr adroddiad yn ceisio ei wneud oedd, 'Wel, os bydd pethau'n mynd o chwith, pwy sy’n gyfrifol wedyn?', ac mae hwnnw'n gwestiwn dilys y byddwn yn ei ystyried yn rhan o'r ymateb i adroddiad y pwyllgor. Efallai y bydd angen deddfwriaeth i wneud yn siŵr bod y sefyllfa’n eglur. Er enghraifft, bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod i, flwyddyn a hanner yn ôl erbyn hyn, ar yr A55, lle y bu llifogydd. Yn y pen draw roedd yn fater i Gyngor Gwynedd, ond roedd angen cyllid gan Lywodraeth Cymru, felly cydweithiwyd i gyflawni hynny. Ond, yn amlwg, ceir problem yma y bydd angen ei datrys o ran: a yw’r sefyllfa’n ddigon cadarn os oes gennym ni gymaint â hynny o sefydliadau—ac unigolion, yn aml iawn—sy'n gyfrifol am reoli llifogydd? A byddwn yn ystyried ein hymateb i hynny yn rhan o'n hymateb i adroddiad y pwyllgor.