Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 13 Mehefin 2017.
Mae rheolau a rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, wedi bod yn bennaf gyfrifol am y trawsnewidiad rydym ni wedi ei weld yn ansawdd dŵr nofio a glendid traethau a’r ffaith bod cynifer nawr o’n traethau ni yn y gogledd â statws baner las, sydd wedi bod yn ffactor bwysig iawn o safbwynt denu twristiaid. Gan ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, a bod Brexit yn dod, beth allwn ni ei wneud i sicrhau ein bod ni’n gwarchod y safonau amgylcheddol yna? Beth fyddwn chi fel Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fyddwn ni byth yn mynd nôl i’r sefyllfa fel ag yr oedd hi lle’r oedd ein traethau a’n moroedd ni ymhlith y butraf a’r mwyaf afiach yn Ewrop gyfan?