<p>Twristiaeth Glan y Môr yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:58, 13 Mehefin 2017

Mae hynny’n iawn. Nid oes dim rheswm pam allwn ni ddim cadw’r rheolau sydd yna ar hyn o bryd. Mae hynny’n rhywbeth, wrth gwrs, i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn i’w benderfynu. Ond, na, ni fyddwn ni fel Llywodraeth ddim o blaid lleihau’r safonau sydd yna. Rwy’n cofio’r amser lle’r oedd yr afon a oedd yn mynd trwy’r dref lle ges i fy nghodi, Pen-y-bont, yn rhedeg â lliwiau gwahanol, yn dibynnu ar beth oedd wedi cael ei daflu i mewn i’r afon—glo, lipstic—roedd popeth yn mynd i mewn i’r afon, ac o achos hynny, roedd yr afon yn goch ac yn wyrdd. Wel, nid oes neb yn moyn mynd yn ôl i hynny, ond, wrth gwrs, beth sy’n bwysig yw, er ein bod ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yw hynny’n meddwl bod rhaid inni felly newid y rheoliadau yma yng Nghymru.