Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 13 Mehefin 2017.
Fel y mae’r Aelod yn gwybod, mae safle’r treial yn Abertawe wedi ei leoli yn ei etholaeth ef yn Llansamlet, ar hyd darn 450m o Nant Bran. Mae angen cymryd gofal, wrth gwrs, wrth ryddhau rhywogaeth anfrodorol arall i reoli rhywogaethau anfrodorol presennol, fel y gwnaiff yr Awstraliaid ei ddweud wrthych, o ystyried y plâu o frogaod y maen nhw’n aml—plâu Beiblaidd, bron, o frogaod y maen nhw’n eu dioddef yno. Felly, mae hyn wedi cael ei wneud mewn ffordd reoledig. Rydym yn gobeithio, wrth gwrs, y bydd hon yn ffordd lwyddiannus o reoli clymog trwy ysglyfaethwr naturiol heb i hynny, wrth gwrs, greu anghydbwysedd mewn mannau eraill o ran bioamrywiaeth.