<p>Clymog Japan</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:05, 13 Mehefin 2017

Brif Weinidog, fel rydym ni’n gwybod, mae clymog Japan yn blanhigyn sy’n cael effaith negyddol nid dim ond ar blanhigion eraill ond ar adeiladau, ac o ganlyniad mae’n gallu rhwystro pobl rhag cael morgais neu insiwrans ar adeiladau. Yn sgîl y difrod mae’r planhigyn yma yn gallu ei achosi, beth, ar y cyfan, yw strategaeth Llywodraeth Cymru pan ddaw hi i daclo’r planhigyn yma? A ydych chi hefyd yn cytuno â mi dylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gyfrifol am fynd i’r afael â’r broblem yma? Oherwydd rydw i’n deall nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru bwerau statudol o gwbl i fynd i’r afael â’r planhigyn yma.