<p>Gwasanaethau Iechyd Meddwl i’r Ifanc</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:07, 13 Mehefin 2017

Mi oeddwn i’n falch iawn, ychydig wythnosau yn ôl, o gael sgwrs efo Laura Burton, merch ifanc o Fôn sy’n gwirfoddoli i Amser i Newid ac sy’n gwneud gwaith rhagorol yn pwyso am welliannau i wasanaethau iechyd meddwl. Mi oeddwn i’n cytuno efo hi, yn sicr, bod angen gwneud mwy i newid agweddau pobl ifanc tuag at iechyd meddwl, ond hefyd bod yn rhaid i gynnydd mewn ymwybyddiaeth fynd law yn llaw, wrth gwrs, â buddsoddiad mewn adnoddau a chyllid digonol. O ran yr adnoddau, a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno ei bod hi’n annerbyniol bod Ynys Môn wedi cael ei gadael heb seiciatrydd ymgynghorol o gwbl i oedolion rhwng 18 a 65 oed—rhywbeth sy’n effeithio ar Laura, fel llawer o bobl eraill? Ac a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno hefyd, o ran yr ochr ymwybyddiaeth, bod angen gwneud llawer mwy i fuddsoddi mewn addysg iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc er mwyn gwneud y gwaith yna o godi ymwybyddiaeth?