<p>Gwasanaethau Iechyd Meddwl i’r Ifanc</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 13 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 13 Mehefin 2017

Mae yna ymgynghorydd ym mhob ysgol uwchradd, wrth gwrs, er mwyn helpu, ond, i rai pobl ifanc, mae’n rhaid cael mwy o gyngor, a dyna pam, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi £8 miliwn y flwyddyn mewn i CAMHS. Os edrychwn ni ar ardal Betsi Cadwaladr, gan gynnwys Ynys Môn, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod bod y nifer a oedd yn aros am asesiad wedi mynd lawr o 669 i 90 mewn blwyddyn, felly lleihad o 86.5 y cant, a dyna, wrth gwrs, beth y mae’r buddsoddiad wedi’i wneud.