Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Mehefin 2017.
Diolch, Brif Weinidog. Gwn eich bod wedi ysgrifennu yn y gorffennol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd ar y pryd, yn galw am adolygiad o gynllun pensiwn y glowyr. Cyfarfûm yn ddiweddar ag ymgyrchwyr o gymdeithas cynllun pensiwn glowyr y DU, a ddywedodd wrthyf sut y mae'r ffordd y mae’r cynllun yn gweithio ar hyn o bryd yn effeithio’n wael ar wragedd gweddwon glowyr, yn arbennig, a rhai ohonynt, er enghraifft, yn cael dim ond £10 yr wythnos. A wnewch chi ysgrifennu at Lywodraeth y DU unwaith eto, gan amlygu sut y gallai diwygio'r cynllun nid yn unig fod o fudd i lowyr, ond hefyd hyrwyddo cydraddoldeb economaidd i weddwon glowyr yn fy etholaeth i yng Nghwm Cynon ac mewn mannau eraill yng Nghymru?