Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 13 Mehefin 2017.
Cefais gyfarfod â chynrychiolwyr Undeb Cenedlaethol y Glowyr de Cymru ychydig wythnosau yn ôl, ac amlinellwyd ganddynt, unwaith eto, yn gryf, yr achos dros adolygiad. Byddwn yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU sydd newydd ei hethol, yn gofyn iddi ystyried adolygiad o'r cynllun. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi nodi ein cefnogaeth i adolygiad o'r trefniadau presennol ar gyfer gwargedion cynllun pensiwn y glowyr, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod—soniwyd am hynny eisoes yn y Cyfarfod Llawn. Ysgrifennais at yr undebau llafur fis Chwefror diwethaf i ail-bwysleisio ein cefnogaeth i adolygiad.