Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 13 Mehefin 2017.
Diolch yn fawr iawn, Darren, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae’n bwysig iawn i mi bod pawb yn cael yr un cyfle i gael gafael ar y cyfleusterau hyn, ac rydych chi’n iawn wrth ddweud bod rhai ysgolion nad oeddent, tan yn ddiweddar, mewn sefyllfa i allu defnyddio'r DCF a gwneud y math o waith y maen nhw’n awyddus i’w wneud yn ddigidol oherwydd diffyg seilwaith. Roedd y Llywodraeth flaenorol wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau cyflymderau gofynnol ar gyfer ysgolion ac, yn anffodus, pan ddeuthum i’r swydd, canfûm fod nifer o ysgolion nad oeddent yn cyrraedd y targed hwnnw. Rwy'n falch iawn i ddweud bod pob ysgol yn cyrraedd y targed gofynnol erbyn hyn. Mae’r problemau hynny wedi eu datrys, ac mae pob ysgol ar y cyflymderau gofynnol erbyn hyn.
Mae'r £5 miliwn—a dylwn i fod yn glir; nid cyhoeddiad heddiw yw hwnnw, arian yr wyf i wedi’i gyhoeddi yn flaenorol ydyw, ac rwy'n adrodd yn ôl i'r Cynulliad heddiw ar y defnydd o’r £5 miliwn hwnnw, er eglurder. Bydd y buddsoddiad o £5 miliwn yn gallu gwella cyfleusterau ymhellach ar gyfer 341 o ysgolion. Mae’r penderfyniadau hynny wedi eu gwneud ar y cyd ag awdurdodau lleol ac yn ymwneud â chapasiti y maen nhw’n gwybod sy’n broblemus, cynnydd yn y galw a ble maen nhw’n teimlo y ceir problemau penodol, ac, yn bwysig i mi, gwella capasiti yn ein hysgolion arbennig. O dan y targed blaenorol, roedd ysgolion arbennig yn cael yr un cyflymder gofynnol ag ysgolion cynradd. Gwnaethpwyd hynny fel arfer ar sail bod eu cofrestrau yn llai nag ysgol uwchradd, ond wrth gwrs mae disgyblion oedran uwchradd yn ein hysgolion arbennig yn aml, ac mae'n ymddangos i mi yn deg eu bod yn gallu cael gafael ar yr hyn y byddent yn ei gael pe byddent yn yr ysgol uwchradd prif ffrwd, a hefyd oherwydd y ffordd arloesol iawn y mae llawer o'n hysgolion arbennig yn defnyddio technoleg ddigidol i gael gafael ar gyfleoedd dysgu ar gyfer cymaint o'u dysgwyr. Felly, rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu mynd i'r afael â hynny yn y buddsoddiad.
Darren, rydych chi hefyd yn gywir bod yr offer y tu allan i'r ysgol yn un peth, ond os nad oes gennym seilwaith priodol o fewn yr ysgol, yna ni fydd y buddsoddiad hwn yn cyrraedd ei botensial llawn. Weithiau, pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion, mae pobl yn cwyno wrthyf am ddiffyg band eang, ond mewn gwirionedd problemau cysylltedd o fewn adeilad yr ysgol ei hun sydd yn achosi’r broblem. Felly, byddwn ni’n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar rwydweithiau lleol, capasiti Wi—Fi mewn adeilad ysgol unigol, a hefyd, yn hollbwysig, cymorth o’r canol—ein cynghorau—i ysgolion yn y defnydd o'u TGCh. Byddwn angen iddyn nhw barhau i wneud hynny.
Mae angen i ni hefyd herio rhai ymddygiadau. Soniasoch am hidlyddion y we a diogelu plant, ond weithiau gall hidlyddion y we gael eu defnyddio mewn ffordd sydd yn cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei wneud â TGCh, mewn gwirionedd. Rwy'n ymwybodol o un awdurdod lleol penodol yng Nghymru lle nad yw hidlydd y we yn caniatáu defnyddio Skype. Felly, mewn un sir gallwn gael plant ysgol yn siarad ag arloeswr yn yr Antarctig drwy Skype, a hynny yn llythrennol i lawr ym Mhegwn y De, a gallant gael y sgwrs honno â’r arloeswr hwnnw, ond mewn awdurdod arall, oherwydd materion sy’n ymwneud â hidlyddion y we, ni allant ddefnyddio Skype. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â’r mathau hynny o broblemau sy'n cyfyngu ar ein gallu i ddefnyddio’r dechnoleg hon.
Soniasoch am anfantais llythrennedd. Rwy’n ymwybodol bod rhai ysgolion yn defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion i ymdrin â materion fel hyn. Yn wir, yn Bryn Elian, lle'r aethom ni’n dau ar ymweliad, byddwch yn ymwybodol bod yr ysgol honno yn anfon cyfrifiaduron Raspberry Pi adref gyda’r plant fel eu bod mewn gwirionedd yn gallu gwneud eu gwaith yn amgylchedd y cartref. Felly, ar gyfer y plant hynny nad oes gan eu rhieni efallai yr adnoddau hynny, mae'r ysgol yn gwneud ymdrech i sicrhau bod y broblem yn cael ei goresgyn. Dyna enghraifft dda iawn o arfer da yn eich etholaeth chi y byddwn yn ei chanmol. Fel y gwyddoch, ac fel y gwnaethoch gyfeirio ato, bydd fy nghyd- Aelod yn gwneud datganiad yn ddiweddarach ar gyflwyno band eang cyflym iawn, ac rwy'n awyddus iawn na fydd neb dan anfantais. Mae’n rhaid i lawer o'r plant hyn fynd adref ar ddiwedd y diwrnod ysgol oherwydd problemau cludiant ysgol, ac os ydyn nhw mewn cymuned lle nad oes mynediad at y dechnoleg hon, maen nhw wir dan anfantais. Nid oes yr un diwrnod yn mynd heibio pan nad yw fy merched yn dod o'r ysgol â gwaith cartref sy’n gofyn am iddynt wneud rhywfaint o ymchwil ar y rhyngrwyd.
O ran diogelwch, mae gan Hwb lawer o adnoddau sy’n ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd, ac rydym yn parhau i weithio'n agos iawn i sicrhau bod gan ein plant y sgiliau, yr wybodaeth a'r modd i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein. Byddaf yn cyhoeddi’r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y bo modd. Rwy'n awyddus i wneud hynny yn brydlon.