Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 13 Mehefin 2017.
A gaf i hefyd groesawu’ch datganiad chi y prynhawn yma, a chroesawu unwaith eto’r ffaith bod cymhwysedd digidol yn agwedd trawsgwricwlaidd ac yn rhan ganolog o gynlluniau addysg y Llywodraeth yma? Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw yn y gorffennol i lythrennedd digidol gael ei ystyried yn gyfartal â llythrennedd a rhifedd. Yn amlwg, felly, rŷm ni’n croesawu pob symudiad pellach i’r cyfeiriad yna.
A gaf innau hefyd dystio fel rhiant i lwyddiant Hwb? Yn sicr, yn ein tŷ ni, mae’r plant llawer mwy parod i fynd i wneud eu gwaith ar Hwb yn hytrach na mynd i dwrio mewn llyfrau. Mae rhywun yn cydnabod bod angen y ddau, wrth gwrs, ond yn sicr mae ei gyfraniad e yn fawr iawn ac un i’w groesawu ac i’w adeiladau arno ymhellach, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei awgrymu.
Fel rŷm ni wedi ei glywed, mae cael band llydan i fwy o ysgolion yn un peth, wrth gwrs. Mae sicrhau bod yr isadeiledd yn ei le yn beth arall. Ond wrth gwrs, yr hyn hefyd sydd ei angen yw sicrhau bod y caledwedd ar gael, oherwydd rwy’n gwybod am un ysgol, er enghraifft, lle os oes mwy na dau ddisgybl yn defnyddio iPad ar yr un pryd, mae’r holl system yn ‘crash-o’. Wel, o gael y band llydan yn ei le, yna mae angen bod 20 o ddisgyblion yn defnyddio iPads, ond nid oes gan yr ysgol 20 o iPads. Felly, mae angen buddsoddiad cyfalaf mewn prynu offer i gymryd mantais lawn o’r isadeiledd newydd a fydd yn cael ei roi yn ei le.
Yn yr hinsawdd lle mae cyllidebau ysgolion, wrth gwrs, yn lleihau, rwy’n gwybod, er enghraifft, am ysgol arall lle mae angen gwario £5,000 i £7,000 ar brynu cyfarpar os ydyn nhw’n mynd i gytundeb gyda darparwyr eraill am wasanaethau IT. Mae hynny’n anodd. Felly, nid wyf yn gwybod pa ystyriaeth mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei rhoi i, o bosibl, greu rhyw fath o gronfa neu ryw fath o gymorth ymarferol i ysgolion sydd angen nawr, neu a fydd angen am y tro cyntaf, manteisio’n llawn ar y capasiti band eang a fydd gyda nhw er mwyn sicrhau bod eu disgyblion nhw yn cael y budd gorau o’r buddsoddiad hwnnw.
Rwyf hefyd yn clywed y pwynt ynglŷn â’r ffaith bod yna rai pobl heb fynediad i’r we. Wel, mae yna bobl eraill, wrth gwrs, adref â mynediad i’r we ond nid yw’n ddigon da. Rwyf i’n un ohonyn nhw. Mae fy mhlant i’n aml wedi cychwyn ar eu gwaith ar Hwb ond wedi methu cwblhau’r gwaith oherwydd bod y capasiti band eang ddim yn ddigonol i gynnal y sesiwn yna. Felly, mae yna gwestiwn yn aros. Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at ‘parental engagement’. Wel, yr ‘engagement’ rydw i’n ei gael gyda Hwb yw un o rwystredigaeth lwyr pan nad yw’r system yn gweithio oherwydd y problemau hynny. Efallai y cawn glywed mwy mewn datganiad sydd i ddilyn.
Nid oes angen i mi eich atgoffa chi, ond mi wnaeth arolwg o’r gweithlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar ddangos fod technoleg gwybodaeth a sgiliau digidol yn un o’r meysydd lle mae’r gweithlu’n dweud eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw angen llawer mwy o hyfforddiant ynddo. Mae 46 y cant, rwy’n credu, wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod nhw angen mwy o hyfforddiant yn y maes yma.
Nawr, mi gyfeirioch chi at gyfleoedd sydd yn mynd i gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf, efallai, ond fe liciwn i wybod pa drefniadau sydd yn eu lle i sicrhau bod y potensial llawn yma yn cael ei wireddu, oherwydd amser i hyfforddi yw’r ‘issue’ rwyf wedi ei godi gyda chi yn y gorffennol. Mae’n anodd gweld—os ydym ni am wneud defnydd llawn o’r cyfle sydd o’n blaenau ni, yna mae’n rhaid sicrhau bod y gweithlu â’r sgiliau angenrheidiol, yn enwedig, wrth gwrs, pan rydym yn sôn am ddatblygu codio a mwy o weithgarwch o gwmpas hynny, sydd yn gofyn am lefel uwch o sgiliau yn y maes yma.