Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 13 Mehefin 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Ar y 12 Ebrill eleni, cyhoeddais ymgynghoriad y strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl. Mae'r strategaeth yn amlinellu ein cynllun i ddefnyddio technolegau genomeg newydd i wella iechyd a ffyniant pobl Cymru. Trwy gyfrwng y strategaeth, rydym ni eisiau i bobl ledled Cymru allu cael diagnosis cyflymach a mwy cywir a gwell gwybodaeth i gefnogi penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth. Rydym ni hefyd eisiau defnyddio’r technegau diweddaraf i ragweld clefydau’n well a chael gwell dealltwriaeth o achosion o glefydau.
Mae technolegau genetig a genomig newydd yn ein galluogi i ddatblygu dealltwriaeth lawer fwy manwl o'r cysylltiad rhwng ein genynnau a'n hiechyd. Mae profion labordy genetig traddodiadol yn defnyddio dulliau dilyniannu sy'n dadansoddi genyn unigol neu ran o enyn i nodi newidiadau DNA sy'n achosi afiechydon. Fodd bynnag, mae dyfodiad diweddar technegau dilyniannu cenhedlaeth nesaf, mwy newydd, wedi galluogi astudiaeth o ddegau, cannoedd os nad miloedd o enynnau, neu hyd yn oed holl DNA neu genom person, ar yr un pryd. Mae datblygiadau cyfochrog ym maes TG, storio, rhannu a dadansoddi data wedi ein galluogi i graffu ac arsylwi ar lawer iawn o wybodaeth a gynhyrchir gan y math hwn o ddilyniannu, ac yna ei ddadansoddi. Mae’r maes hwn yn newid yn gyflym ac mae cost technolegau genomig yn parhau i ostwng. Mae'r strategaeth yn cynnig sail i ni ddarganfod manteision iechyd ac economaidd y technolegau hyn i bobl Cymru.
Mae'r technolegau genetig a genomig newydd yn dod chwarae rhan gynyddol yn y ddarpariaeth o feddyginiaeth fodern. Maen nhw’n cael effaith ar nifer ehangach o arbenigeddau clinigol, gan alluogi clinigwyr i ddeall clefyd unigol claf yn well a chynnig diagnosis mwy cywir ac amserol. Maen nhw hefyd yn alluogwyr meddygaeth fanwl: datblygu triniaethau penodol ar gyfer unigolion, yn hytrach nag ar gyfer y boblogaeth yn ei chyfanrwydd. Er enghraifft, mae ein dealltwriaeth o sail enetig canser bellach yn cefnogi’r ddarpariaeth o therapïau penodol i gleifion. O ran canser yr ysgyfaint, er enghraifft, nodwyd pedwar arwydd genetig, ac mae'r rhain yn caniatáu i glinigwyr gynnig y triniaethau sydd fwyaf tebygol o atal twf tiwmorau, eu crebachu a chynyddu ansawdd a hyd bywyd. Oherwydd bod gan bob clefyd unigol arwyddion genetig lluosog yn aml, mae'n fwy cost-effeithiol ac yn gyflymach profi ar gyfer yr holl enynnau, neu sawl gennyn, ar yr un pryd. Drwy'r strategaeth, bydd cyllid yn cael ei ddarparu i wasanaeth geneteg meddygol Cymru Gyfan y GIG i ddarparu dadansoddiad panel genynnau i edrych ar dargedau lluosog ar gyfer canser yr ysgyfaint ar yr un pryd. Bydd hyn yn caniatáu i glinigwyr wneud gwell penderfyniadau am opsiynau triniaeth a hefyd yn caniatáu i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol arloesol.
O ran clefydau anghyffredin, mae technolegau genetig a genomig yn galluogi diagnosis cyflymach a mwy cywir. Ceir sail enetig i’r rhan fwyaf o glefydau anghyffredin, ond mae'n aml yn cymryd amser hir i gleifion dderbyn diagnosis, os cawn nhw un o gwbl. Ac mae hynny’n gadael cleifion a'u teuluoedd heb fawr o wybodaeth ynghylch y peryglon i’w teuluoedd a'r opsiynau ar gyfer triniaeth neu reoli eu cyflwr. Hefyd, mewn cyflyrau cymhleth fel rhai anableddau deallusol, mae angen edrych ar fwy na 1,000 o enynnau. Bydd y gallu i ddadansoddi mwy o enynnau ar yr un pryd yn golygu y bydd gan fwy o gleifion â chlefydau anghyffredin ac anabledd deallusol fynediad at y technolegau diweddaraf ar gyfer diagnosis mwy cywir a chyflymach.
Fodd bynnag, mae mwy i’r strategaeth na gwthio rhagor o DNA trwy ddilynianwyr a dadansoddi data yn unig. Mae hefyd yn golygu cyd-gynhyrchu gwasanaethau a fydd yn cefnogi’r cyhoedd, neu glaf, i gael y prawf mwyaf cywir yn brydlon. Ac, yn bwysig, mae’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd nesaf, ar ôl i ni gael y canlyniad a allai effeithio nid yn unig arnom ni ein hunain yn y dyfodol, ond hefyd ar ddyfodol ein ceraint a’n cydnabod. Mae union natur genynnau a DNA yn golygu y gellir trosglwyddo ein problem ni i’n hanwyliaid. Mae cynghorwyr genetig a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill yn gweithio'n ddiflino ar y berthynas rhwng genomeg a'r cyflwr dynol, i egluro'r effaith y gall y wybodaeth hon ei chael ar ein hiechyd, ein llesiant a’r cymorth y gallai fod ei angen arnom.
Mae'n amlwg na fydd manteision i’r claf yn y maes hwn yn cael eu darparu gan y GIG ar ei ben ei hun. Mae cysylltiadau â gweithgareddau ymchwil a diwydiant yn bwysicach nag erioed, ac mae’n rhaid alinio’r ecosystem ehangach ar gyfer genomeg i sicrhau’r manteision iechyd ac economaidd mwyaf posibl i Gymru. Yn ogystal â datblygu gwasanaethau newydd i gleifion yng Nghymru, mae'r strategaeth yn amlinellu camau i ddatblygu gwaith ymchwil mewn geneteg a genomeg, i gynyddu gwybodaeth a sgiliau ymhlith gweithlu’r GIG a'r gweithlu allanol, ac i adeiladu partneriaethau strategol manwl ym maes genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl. Yn y maes hynod gystadleuol hwn sy’n ehangu'n gyflym, mae’n bwysig bod Cymru’n gallu cydweithio â phartneriaid ar lwyfan rhyngwladol, gan fod hyn yn denu cyllid ychwanegol, yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu sylfaen sgiliau yng Nghymru, ac yn sail i fabwysiadu triniaethau newydd yn gynt er budd cleifion.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cymru'n ymuno â'r prosiect 100,000 o Genomau trwy bartneriaeth gyda Genomeg Lloegr. Bydd hyn yn galluogi cleifion yng Nghymru â chlefydau anghyffredin penodol i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil arloesol sylweddol, sydd â’r potensial i gael diagnosis cyflymach a mwy cywir a allai ddod o ddilyniannu genomau cyfan. Mae'r prosiect wedi denu gwerth £1 filiwn o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Meddygol, ynghyd â £2.3 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, ac mae’n cefnogi swyddi o ansawdd uchel ac yn dod â manteision economaidd ychwanegol yma i Gymru.
Datblygwyd y strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl gan y tasglu genomeg, wedi ei seilio ar gydweithio agos rhwng cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, y GIG, y trydydd sector a sefydliadau addysg uwch. Mae'r tasglu wedi gweithio'n galed i ymgynghori trwy gydol y broses, ac i sicrhau bod cymaint o randdeiliaid â phosibl wedi gallu lleisio eu barn wrth ddatblygu'r strategaeth. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio nawr ar ddatblygu galluoedd genomeg, gan fod y technolegau hyn yn dod yn fwyfwy fforddiadwy ac yn cael effaith gadarnhaol ar feddygaeth fanwl a rheoli clefydau heintus.
Fodd bynnag, ni fydd buddsoddi mewn genomeg yn unig yn ddigon i ddarparu meddygaeth fanwl. Mae technolegau eraill fel delweddu, astudiaethau moleciwlaidd, monitro amser real o salwch a dadansoddi data oll yn chwarae rhan bwysig, ochr yn ochr â’r dulliau clinigol traddodiadol o asesu clefyd rhywun. Mae angen integreiddio’r ddiagnosteg hon, wrth gwrs, gyda datblygiad therapiwteg penodol newydd, sy'n cynnwys therapiwteg uwch sy'n deillio o ddulliau therapi celloedd a genynnau.
Mae'n amlwg bod yr heriau o'n blaenau yn sylweddol, fel y maen nhw mewn sawl maes meddygaeth arall a'r gwasanaeth iechyd. Bydd partneriaeth bellach, wrth gwrs, yn angenrheidiol i wneud meddygaeth fanwl yn arfer cyffredin yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ond mae’r strategaeth genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl hon yn sail i’r hyn a ddylai fod yn ddyfodol disglair i sicrhau manteision iechyd ac economaidd technolegau genomeg yng Nghymru.